Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyfarfod: 14/09/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 23)

23 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol, cadarnhaodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod trefniadau’n cael eu gwneud ar gyfer sesiwn i’r holl Aelodau ar waith Swyddfa’r Crwner.

 

Yn unol â chais gan y Cynghorydd Bernie Attridge, byddai’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa bresennol Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol yn cael ei rhannu gyda’r Pwyllgor.  Yn y cyfamser, gofynnwyd i’r Cynghorydd Attridge gysylltu â’r Rheolwr Corfforaethol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) yngl?n â mater a oedd yn benodol i ward.

 

O ganlyniad i gais gan y Cynghorydd Sam Swash, byddai adolygiad cyfnodol o berfformiad o ran y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cael ei drefnu.

 

Ar y sail honno, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

(b)       Rhoi awdurdod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.