Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyfarfod: 20/04/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 93)
93 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 99 KB
Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Forward Work Programme, eitem 93 PDF 61 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y rhaglen gwaith i’r dyfodol gyfredol i’w hystyried a nodi’r newidiadau canlynol:
· Adroddiad Alldro’r Gyllideb Refeniw a Rhaglen Gyfalaf 2022/23 - yn cael ei symud o fis Mai i fis Gorffennaf
· Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 Mis 1 yn cael ei symud o fis Mehefin i ganiatáu ar gyfer Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw Dros Dro 2023/24 ym mis Gorffennaf.
Ar sail hynny, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bill Crease a Linda Thomas.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd; a
(b) Rhoi awdurdod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.