Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyfarfod: 20/04/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 93)

93 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y rhaglen gwaith i’r dyfodol gyfredol i’w hystyried a nodi’r newidiadau canlynol:

 

·         Adroddiad Alldro’r Gyllideb Refeniw a Rhaglen Gyfalaf 2022/23 - yn cael ei symud o fis Mai i fis Gorffennaf

·         Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 Mis 1 yn cael ei symud o fis Mehefin i ganiatáu ar gyfer Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw Dros Dro 2023/24 ym mis Gorffennaf.

 

Ar sail hynny, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bill Crease a Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd; a

 

(b)       Rhoi awdurdod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.