Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyfarfod: 09/02/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 77)
77 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 80 KB
Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Forward Work Programme, eitem 77 PDF 67 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried, gan gynnwys eitemau i’w dyrannu ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol.
Yn dilyn awgrymiadau gan y Cadeirydd, bydd adroddiad ar yr adolygiad o’r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn cael ei drefnu ar gyfer mis Medi 2023. Bydd adroddiad i egluro gofynion statudol ac anstatudol fel rhan o’r broses o osod y gyllideb hefyd yn cael ei drefnu.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bill Crease a Chris Dolphin.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd; a
(b) Rhoi awdurdod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.