Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
Cyfarfod: 20/04/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 56)
56 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 81 KB
Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Forward Work Programme, eitem 56
PDF 61 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol cyfredol yn nodi nad oedd unrhyw newidiadau arfaethedig i’r eitemau a oedd wedi’u rhestru. Bydd dyddiadau cyfarfodydd y dyfodol o fis Medi yn cael eu hychwanegu ar ôl iddynt gael eu cyflwyno a’u cymeradwyo yn y cyfarfod blynyddol o’r Cyngor i’w gynnal ar 4 Mai 2023.
Gofynnodd y Cynghorydd Ellis i ychwanegu eitem ynghylch Mynediad at Feddygon teulu oherwydd y nifer o gwynion yr oedd wedi’i gael am bobl yn methu â chael apwyntiadau Meddyg Teulu. Gofynnodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Ellis ysgrifennu ati gyda’r problemau yr oedd wedi’i gael, ac yna byddai’n ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar ran y Pwyllgor.
Hefyd roedd y Cadeirydd eisiau ychwanegu eitem ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i drafod yn y Cyd-gyfarfod nesaf gyda’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant, ac yr oedd wedi trafod gyda’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) cyn dechrau’r cyfarfod. Dywedodd y Prif Swyddog ei fod wedi cael cyflwyniad cadarnhaol gan unigolyn ifanc gydag anabledd a oedd yn hunan-eiriolwr ac wedi helpu ei hun ac eraill i mewn i’r byd gwaith, ac wedi awgrymu ei bod yn cael ei gwahodd i roi cyflwyniad i Aelodau yn y cyfarfod ar y cyd sydd wedi’i drefnu ar gyfer mis Mehefin. Roedd y Pwyllgor o blaid yr awgrym hwn.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Gladys Healey a’u heilio gan y Cynghorydd David Mackie.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.