Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
Cyfarfod: 02/03/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 47)
47 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 82 KB
Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Forward Work Programme and Action Tracking (S&HC OSC), eitem 47 PDF 61 KB
- Enc. 2 for Forward Work Programme and Action Tracking (S&HC OSC), eitem 47 PDF 45 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol ac mewn ymateb i’r Cadeirydd, cytunodd i weld a ellir cynnal yr ymweliad uwch i Wasanaethau Cyfarpar Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru fore dydd Iau 20 Ebrill cyn y cyfarfod yn y prynhawn. Bu iddi hefyd gadarnhau bod y ddwy eitem Olrhain Camau Gweithredu wedi’u cwblhau a bellach wedi’u cau.
Gofynnodd y Cadeirydd fod y llythyr yn cael ei anfon at Gadeirydd Dros Dro newydd Bwrdd Betsi Cadwaladr.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Dave Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.