Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Month 8)

Cyfarfod: 17/01/2023 - Cabinet (eitem 110)

110 Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 8) pdf icon PDF 125 KB

Pwrpas:        I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 8) ac amrywiant sylweddol i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfamonitro cyllideb refeniw 2022/23 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.

 

Y sefyllfa a ragwelwyd ar gyfer diwedd y flwyddyn oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

·         Diffyg gweithredol o £0.352 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniadau cyflog y byddai angen eu talu o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid anffafriol o £0.258 miliwn ers ffigwr y diffyg a adroddwyd ym Mis 7

·         Rhagwelir y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid sydd ar gael ar 31 Mawrth 2023 yn £3.797 miliwn 

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn yn £3.076 miliwn yn uwch na’r gyllideb.

·         Rhagwelir y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2023 yn £3.398 miliwn.

 

             Helpodd Cyllid Caledi gan Lywodraeth Cymru i sicrhau £6 miliwn o gymorth ariannol uniongyrchol y flwyddyn flaenorol, ac roedd taliadau ar gyfer 2022/23 yn parhau i gael eu hawlio ar gyfer taliadau ategol Tâl Salwch Statudol a Hunan-ynysu, ynghyd â thaliadau uniongyrchol Prydau Ysgol am Ddim  a Taliadau Tanwydd y Gaeaf o fewn eu cyfnodau cymwys.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2022/23;

 

(b)       Cefnogi’r cais am ddwyn arian ymlaen; a

 

(c)        Bod y Gronfa wrth Gefn at Raid yn cael ei chynyddu £2.4 miliwn o’r dyraniad Cymorth Refeniw ychwanegol a gafwyd ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2022/23 i wella’r lefel sydd ar ôl i ddiogelu’r Cyngor rhag risgiau a digwyddiadau eraill na ellir eu rhagweld.