Mater - cyfarfodydd

Safeguarding Adults and Children's Annual Report

Cyfarfod: 19/01/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 42)

42 Adroddiad Blynyddol Diogelu Oedolion a Phlant pdf icon PDF 155 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad i’r aelodau ar Ddiogelu Oedolion a Phlant.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu y Rheolwr Diogelu Oedolion  ac un o Gadeiryddion Cynhadledd Amddiffyn Plant a oedd yno i ateb unrhyw gwestiynau gan Aelodau, yn sgil absenoldeb y Rheolwr Uned Diogelu a ysgrifennodd yr adroddiad.  Fe eglurodd mai pwrpas yr Adroddiad Blynyddol oedd rhoi gwybod i Aelodau am y gwaith oedd wedi cael ei wneud, y gwaith a fyddai’n cael ei wneud ac i ystyried gwybodaeth allweddol yn ymwneud ag ystadegau a pherfformiad am blant ac oedolion mewn perygl yr oedd gan yr Awdurdod gyfrifoldebau diogelu a diogelu corfforaethol sylweddol amdanynt. Yn ogystal ag ystyried effaith gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan a lansiwyd yn ôl yn 2019.

 

                      Gofynnodd y Cynghorydd Ellis a oedd y Bwrdd Diogelu yn cynnwys Iechyd, a chadarnhaodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu eu bod yn brif bartner ar y Bwrdd Diogelu yn ogystal â’r holl is-grwpiau. Fe ychwanegodd y Rheolwr Diogelu Oedolion fod yna ddau Arbenigwr Diogelu wedi’u lleoli yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac roeddynt mewn cyswllt rheolaidd â nhw.  Fe soniodd hi hefyd am gysylltiadau da gydag Ysbyty Iarlles Caer allai fod yn anodd gan ei fod dros y ffin gyda deddfwriaeth arall

 

                      Gan ymateb i’r Cynghorydd Ellis, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu fod yna 191 o blant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant.

 

                      Roedd y Cynghorydd Mackie yn bryderus am blant yn gadael gofal oherwydd eu hoedran ac yn credu y dylent gael gofal y tu hwnt i 18 oed. Fe eglurodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) fod yna gategorïau gwahanol o ymadawyr gofal, ond os oedd plentyn wedi derbyn gofal am hirach na 13 wythnos, nid oedd y cyfrifoldeb yn dod i ben yn 18 mlwydd oed, gan fod yna gyfrifoldeb ychwanegol i’w cefnogi hyd at 25 mlwydd oed. Fe eglurodd fod menter ‘Pan Fydda i’n Barod’ ar gyfer plant sy’n troi’n 18 oed a’u bod yn cael y cyfle i aros mewn amgylchedd gofal maeth petaent yn dymuno.   Fe ychwanegodd fod y polisi wrthi’n cael ei ddiweddaru yn seiliedig ar yr hyn sydd wedi cael ei ddysgu a’r adborth a gafwyd ers iddo gael ei gyflwyno ychydig flynyddoedd yn ôl.

 

                      Gofynnodd y Cadeirydd pa arweiniad a roddwyd mewn cysylltiad â’r cyfandaliad roeddynt yn ei gael gan Lywodraeth Cymru.  Dywedodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) fod y cynllun peilot Incwm Sylfaenol yn beilot dwy flynedd o hyd gan Lywodraeth Cymru pan roedd pobl ifanc yn gadael gofal yn derbyn incwm misol. Fe gadarnhaodd yn lleol eu bod yn gweithio gyda CAB sy’n rhoi cymorth ariannol i bobl ifanc ddefnyddio’r arian yn gyfrifol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal gwerthusiad ac wedi anfon holiaduron i’n Plant sy'n Derbyn Gofal sydd yn derbyn y Peilot Incwm Sylfaenol, er mwyn iddynt gael deall yr effaith mae wedi’i gael. Roedd Cynghorwyr a rhieni Corfforaethol hefyd yn rhan o’r gwerthusiad er mwyn canfod eu barn nhw. Dywedodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu pan fyddant yn cael y canlyniadau, y byddent yn adrodd yn ôl drwy’r Fforwm Gwasanaethau  ...  view the full Cofnodion text for item 42