Mater - cyfarfodydd

Treasury Management Mid-Year Review 2022/23

Cyfarfod: 24/01/2023 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 71)

71 Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2022/23 pdf icon PDF 170 KB

Cyflwyno drafft Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2022/23 i'r Aelodau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2021/22.  Dywedodd, fel sy'n ofynnol gan Reolau Gweithdrefnau Ariannol y Cyngor, fod yr Adroddiad Blynyddol wedi’i adolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 27 Gorffennaf 2022 a'r Cabinet ar 26 Medi 2022.  Nid oedd unrhyw faterion o bwys wedi’u codi.  Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar y prif bwyntiau fel y disgrifir yn 1.05 – 1.09 yr adroddiad eglurhaol.

 

            Wrth gynnig yr argymhelliad yn yr adroddiad fe wnaeth y Cynghorydd Paul Johnson ddiolch i'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a'i dîm am eu gwaith ar gynhyrchu'r Adroddiad Blynyddol.  Eiliodd y Cynghorydd Ted Palmer hyn.

 

PENDERFYNWYD: 

 

Cymeradwyo Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2020/23.