Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme and Action Tracking (E&E OSC)
Cyfarfod: 18/04/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 72)
72 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 82 KB
Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Forward Work Programme and Action Tracking (E&E OSC), eitem 72 PDF 67 KB
- Enc. 2 for Forward Work Programme and Action Tracking (E&E OSC), eitem 72 PDF 46 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu. Dywedodd fod eitem ychwanegol ar y Strategaeth Cludiant Integredig wedi cael ei drefnu ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor i’w gynnal ar 16 Mai, a bod eitem ar y Cynllun Pontio
Cerbydau Allyriadau Isel wedi’i drefnu ar gyfer cyfarfod i’w gynnal ar 11 Gorffennaf 2023. Gwahoddwyd yr Aelodau i godi unrhyw eitemau eraill yr oeddent yn dymuno eu cynnwys ar y Rhaglen.
Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ar yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu a oedd ynghlwm yr adroddiad a dywedodd fod gwaith yn parhau i gwblhau’r ddau gam gweithredu oedd yn weddill.
Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Mike Peers am ddiweddariad ar y mater o barcio tu allan i ysgolion a gafodd ei ystyried ar y cyd â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant, y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant), dywedodd fod y gwaith ar ddrafftio cylch gorchwyl yn mynd rhagddo ac y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno yn fuan i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi ac Addysg, Ieuenctid a Diwylliant i’w gymeradwyo.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorwyr Dan Rose a Mike Peers.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.