Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking (E&E OSC)

Cyfarfod: 07/03/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 62)

62 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 83 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu.  Cyfeiriodd at gyfarfod nesaf y Pwyllgor, a gynhelir ar 23 Mawrth, a fydd yn gyfarfod ar y cyd gyda Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant i ystyried parcio y tu allan i ysgolion, a’r eitemau a restrwyd ar gyfer eu hystyried mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.  Tynnodd yr Hwylusydd sylw hefyd at y gweithdai ar y meini prawf eithriadau ar gyfer gweithredu deddfwriaeth 20mya sydd i’w cynnal ar 15 Mawrth 2023.

 

Cyfeiriodd yr Hwylusydd at adroddiad Olrhain Camau Gweithredu a oedd wedi ei atodi i’r adroddiad, a dywedodd fod yr holl eitemau a oedd yn weddill wedi eu cwblhau.

 

Gwahoddwyd yr Aelodau i godi unrhyw eitemau eraill yr oeddent yn dymuno eu cyflwyno i’w cynnwys ar y Rhaglen. 

 

            Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Roy Wakelam.

PENDERFYNWYD:

(a)     Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

(b)     Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac

(c)     Y byddai’r Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.