Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme and Action Tracking (E&E OSC)
Cyfarfod: 07/03/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 62)
62 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 83 KB
Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Forward Work Programme and Action Tracking (E&E OSC), eitem 62 PDF 72 KB
- Enc. 2 for Forward Work Programme and Action Tracking (E&E OSC), eitem 62 PDF 46 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu. Cyfeiriodd at gyfarfod nesaf y Pwyllgor, a gynhelir ar 23 Mawrth, a fydd yn gyfarfod ar y cyd gyda Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant i ystyried parcio y tu allan i ysgolion, a’r eitemau a restrwyd ar gyfer eu hystyried mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. Tynnodd yr Hwylusydd sylw hefyd at y gweithdai ar y meini prawf eithriadau ar gyfer gweithredu deddfwriaeth 20mya sydd i’w cynnal ar 15 Mawrth 2023.
Cyfeiriodd yr Hwylusydd at adroddiad Olrhain Camau Gweithredu a oedd wedi ei atodi i’r adroddiad, a dywedodd fod yr holl eitemau a oedd yn weddill wedi eu cwblhau.
Gwahoddwyd yr Aelodau i godi unrhyw eitemau eraill yr oeddent yn dymuno eu cyflwyno i’w cynnwys ar y Rhaglen.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Roy Wakelam.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac
(c) Y byddai’r Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.