Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking (E&E OSC)

Cyfarfod: 07/02/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 53)

53 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu.  Cadarnhaodd y byddai David Matthews o Uchelgais Gogledd Cymru yn bresennol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Tir ac Eiddo, yn ychwanegol at yr eitemau ar y rhaglen ar gyfer cyfarfod mis Mawrth.  Gan gyfeirio at y cyfarfod ar y cyd i drafod parcio y tu allan i ysgolion gyda’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant, adroddodd i hwn gael ei aildrefnu ar gyfer 23 Mawrth 2023 am 2pm. Yna, cyflwynodd yr Hwylusydd drosolwg o’r eitemau sydd ar y rhaglenni ar gyfer y cyfarfodydd i ddod, gan ofyn i’r aelodau a hoffen nhw gyflwyno eitemau i’w cynnwys.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mike Peers am p’un a fyddai gorfodaeth yn cael ei gynnwys, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) y byddai’n cynnwys mesurau gorfodaeth parcio y tu allan i ysgolion.   Mewn perthynas â materion gorfodaeth eraill, cadarnhaodd y cynhaliwyd trafodaethau gyda’r Prif Swyddog (Tai) ac Aelodau’r Cabinet, ac y cynigiwyd trefnu gweithdy portffolio ar y cyd, a allai hefyd gynnwys gorfodaeth tipio anghyfreithlon. Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers a ellid cynnwys gorfodaeth parcio yn gyffredinol yn y gweithdy, a chytunwyd i wneud hyn.

 

Yna, cyfeiriodd yr Hwylusydd at yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf am statws yr eitemau a restrwyd.  Cyfeiriodd at y cam gweithredu a oedd yn ymwneud â rhestr cwestiynau gan y Cynghorydd Mike Peers, gan gadarnhau bod Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd wedi darparu’r wybodaeth honno.

 

Teimlai’r Cynghorydd Mike Peers fod y cam gweithredu’n dal i fod ar agor gan nad oedd y ddolen i gyfarfod y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ym mis Ionawr yn cynnwys copi o’r cwestiynau a godwyd gan yr aelodau.  Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd ei fod wedi cysylltu â’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol, ac y byddai’n siarad ag ef unwaith eto.  Byddai’n siarad gyda’r Cynghorydd Peers y tu allan i’r cyfarfod ar ôl cael arweiniad gan y Prif Swyddog (Llywodraethu) ar p’un a ellid rhannu’r wybodaeth hon ai peidio.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)     Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

(b)     Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac

(c)     Y byddai’r Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.