Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking (EY&C OSC)

Cyfarfod: 11/05/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 5)

5 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, amlinellodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r eitemau a oedd yn cael eu cyflwyno i’r cydgyfarfod blynyddol gyda’r Pwyllgor Trosolwg a chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 29 Mehefin.   Gan gyfeirio at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, cadarnhaodd bod yna un newid, Adroddiad Blynyddol GwE a oedd nawr yn cael ei gyflwyno i gyfarfod mis Medi o’r Pwyllgor. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ei bod yn gobeithio dod â thair eitem ychwanegol i gyfarfod mis Gorffennaf, sef Ysgolion Iach, y Gwasanaethau Prydau Ysgol a’r wybodaeth ddiweddaraf ar y materion TG o amgylch y seilwaith cenedlaethol a’r Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Wrth gyfeirio at yr Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu, cadarnhaodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu bod y rhan fwyaf o’r camau gweithredu wedi’u cwblhau.  Gan gyfeirio at y Gr?p Tasg a Gorffen Parcio Ysgol, cadarnhaodd bod e-bost wedi’i anfon yn ceisio enwebiadau i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi ac Addysg, Ieuenctid a Diwylliant.   Roedd y Cabinet yn cefnogi ffurfio’r Gr?p Tasg a Gorffen ond roedd yn awgrymu y dylai’r aelodaeth gynnwys nifer o feysydd ar draws Sir y Fflint a chynnwys ardaloedd gwledig a threfol.    Roedd hyn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd a byddai’r Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yn cysylltu ag Aelodau gyda gwybodaeth ar gyfarfod cyntaf y Gr?p Tasg a Gorffen ar ôl ei sefydlu. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst at yr ymateb a ddarparwyd i’r cwestiynau a godwyd ganddo yn ystod cyfarfod diwethaf ar adroddiad Datblygu Cynllun y Cyngor 2023/28 yngl?n â chyfnod penodol a gwaharddiadau parhaol.  Diolchodd i swyddogion am yr ymateb ond dywedodd nad oedd yn ateb y cwestiynau a godwyd ganddo.    Eglurodd fod ei gwestiynau yn ymwneud â’r ffigyrau llinell sylfaen ar gyfer 2021/22.    Roedd yr Uwch Reolwr (Cynnwys a Chynnydd) yn awgrymu ei bod yn darparu’r wybodaeth hon fel rhan o’r drafodaeth ar yr adroddiad Presenoldeb a Gwaharddiad yn ddiweddarach yn y cyfarfod.  

 

Cafodd yr argymhellion, sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Dave Mackie ac eiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.                  

      

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)     Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu nad oedd wedi’u cwblhau.