Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
Cyfarfod: 23/03/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 49)
49 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 82 KB
Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – Draft Forward Work Programme, eitem 49 PDF 73 KB
- Appendix 2 – Action Tracking for the Education Youth & Culture OSC, eitem 49 PDF 71 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
Cofnodion:
Gan gyfeirio at y Camau Gweithredu o'r cyfarfod diwethaf, cadarnhaodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu fod hysbysiad e-bost wedi'i anfon at yr Aelodau ar gyfer y Gweithdy ar Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig a fydd yn cael ei gynnal ar 26 Gorffennaf am 2.00 pm. Mae llythyr hefyd wedi’i anfon at bob Pennaeth am y Gwasanaeth Cerddoriaeth i Ysgolion. Gan gyfeirio at y cwestiynau a gododd y Cynghorydd Dave Mackie, cadarnhawyd bod y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) wedi cael ymateb gan Aura yn egluro bod y data dangosyddion perfformiad yn cael ei ddarparu'n flynyddol. Byddai adroddiadau perfformiad chwarterol diwedd y flwyddyn yn cael eu cyflwyno i'r pwyllgor ym mis Gorffennaf a chytunodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu i wirio bod y wybodaeth hon wedi'i chynnwys yn yr adroddiad hwn.
Cynigiodd y Cynghorydd Carolyn Preece yr argymhellion, sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad, a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Dave Mackie.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu nad oedd wedi’u cwblhau.