Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme and Action Tracking
Cyfarfod: 08/02/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 24)
24 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 82 KB
Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – Draft Forward Work Programme, eitem 24 PDF 72 KB
- Appendix 2 – Action Tracking for the Community & Housing OSC, eitem 24 PDF 55 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol i’w hystyried.
Dywedodd yr Hwylusydd nad oedd newidiadau arfaethedig i’r eitemau a restrwyd ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol. Wrth gyfeirio at y camau gweithredu yn codi o’r cyfarfod diwethaf, dywedodd yr Hwylusydd fod y swyddogion wedi cadarnhau y byddai’r camau gweithredu’n ymwneud â’r adroddiad Incwm Rhent Tai a Diwygio'r Gyfundrefn Les yn cael ei gynnwys fel gwybodaeth ychwanegol yn adroddiadau’r dyfodol. Byddai’r cam gweithredu’n ymwneud ag anfon llythyr at yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cael ei gwblhau’n nes ymlaen yr wythnos hon.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Evans at y camau canlynol yn codi o’r cyfarfod diwethaf a gofynnodd am i’r wybodaeth hon gael ei dosbarthu cyn y diweddariad nesaf ar yr adroddiad Incwm Rhent Tai a Diwygio'r Gyfundrefn Les mewn chwe mis:-
- Gwybodaeth am nifer yr achosion sy’n aros i fynd yn ôl i’r llys i gael ei ddarparu yn dilyn y cyfarfod; a
- Gwybodaeth am faint o’r 454 o aelwydydd a gafodd ostyngiad yn eu taliad budd-dal tai oherwydd y Dreth Ystafelloedd Gwely ac a oedd mewn ôl-ddyledion i gael ei ddarparu yn dilyn y cyfarfod.
Cafodd yr argymhellion, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’u heilio gan y Cynghorydd Dale Selvester.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.