Mater - cyfarfodydd
Council Tax Base 2023/24
Cyfarfod: 20/12/2022 - Cabinet (eitem 98)
98 Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer 2023/24 PDF 99 KB
Pwrpas: Cymeradwyo Sylfaen Treth y Cyngor am flwyddyn ariannol 2023/24 fel rhan o broses gosod y gyllideb refeniw a gosod Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn newydd.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Council Tax Base 2023/24, eitem 98 PDF 15 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer 2023/24
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod gosod Sylfaen Treth y Cyngor yn rhan ganolog o’r broses i osod y Gyllideb Refeniw a Threth y Cyngor ar gyfer 2023/24, gan ganiatáu i’r Cyngor, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a Chynghorau Tref a Chymuned gyfrifo Praesept Treth y Cyngor eu hunain at y flwyddyn nesaf.
Eglurodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael fod y sylfaen wedi’i chyfrifo yn seiliedig ar 65,815 o eiddo Band ‘D’, ar ôl ystyried cyfanswm yr eiddo a fyddai’n gorfod talu Treth y Cyngor, gan dynnu’r rhai sydd wedi’u heithrio rhag talu Treth y Cyngor neu lle rhoddir gostyngiadau statudol.
Roedd gosod y Sylfaen Dreth ar 65,815 cyfwerth â Band ‘D’ yn cynnwys codiad yng nghyfraddau Premiwm Treth y Cyngor i 75% ar gyfer eiddo gwag hirdymor a 100% ar gyfer Ail Gartrefi o fis Ebrill 2023. Ar y cyfan, roedd hynny’n cynrychioli twf yn y Sylfaen Dreth o 0.95% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a oedd yn cynrychioli 621 eiddo ychwanegol cyfatebol Band ‘D’ ar ôl ystyried y newid naturiol mewn adeiladau newydd, gostyngiadau, eithriadau a chyfraddau premiwm.
Yn dilyn cyfarfod y Cabinet, cysylltir â phob Cyngor Tref a Chymuned i'w hysbysu o'r Sylfaen Dreth y cytunwyd arni.
Mewn ymateb i gais, rhoddodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael fanylion llawn ynghylch pryd y byddai eithriadau’n gymwys.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Sylfaen Dreth yn seiliedig ar 65,815 o eiddo Band D at ddibenion gosod treth ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24;
(b) Parhau i osod disgownt o ‘ddim’ ar gyfer eiddo dan unrhyw un o’r Dosbarthiadau Rhagnodedig (A, B neu C) a bod hynny'n berthnasol i’r sir gyfan;
(c) At ddibenion pennu’r Sylfaen Dreth, mae’r Sylfaen yn ymgorffori newidiadau arfaethedig i Gyfraddau Premiwm Treth y Cyngor o fis Ebrill 2023 ac yn adlewyrchu cynnydd o 50% i 75% ar gyfer eiddo Gwag Hirdymor a 100% ar gyfer Ail Gartrefi.