Mater - cyfarfodydd
Consultation on the Flintshire and Wrexham Public Services Board (PSB) draft Well-being Plan 2023-28
Cyfarfod: 20/12/2022 - Cabinet (eitem 94)
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Consultation on the Flintshire and Wrexham Public Services Board (PSB) draft Well-being Plan 2023-28, eitem 94 PDF 800 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Consultation on the Flintshire and Wrexham Public Services Board (PSB) draft Well-being Plan 2023-28
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad gan egluro bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gofyn i rai cyrff cyhoeddus penodol gydweithio dan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol lleol.
Roedd cyfrifoldebau BGCau yn cynnwys paratoi a chyhoeddi asesiad o les lleol o bryd i’w gilydd, a ddefnyddiwyd i lywio’r gwaith o osod amcanion lles lleol a oedd wedi’u cynnwys mewn cynllun Lles lleol pum mlynedd o hyd.
Cyn cyhoeddi Cynllun Lles newydd, roedd yn ofynnol i’r BGC ymgynghori â nifer o ymgyngoreion statudol, gan gynnwys Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Awdurdod Lleol.
Cafodd Cynllun Lles drafft 2023-28 ei atodi i’r adroddiad i’w ystyried.
Mae tîm o swyddogion o sefydliadau partner sy’n ymwneud â gwaith
BGCau Sir y Fflint a Wrecsam wedi cydweithio i lunio Cynllun Lles drafft ar gyfer 2023-28.
Yn seiliedig ar y dystiolaeth a’r mewnwelediad a amlygwyd gan yr asesiad o les; blaenoriaethau presennol y BGC; a’r dysgu a’r myfyrio o gydweithio â BGC ar wydnwch cymunedol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, roedd y tîm o swyddogion wedi cynhyrchu Cynllun Lles drafft a oedd yn nodi’r camau gweithredu allweddol sydd eu hangen i gyflawni dau amcan lles ar gyfer 2023-2028:
- Meithrin cymunedau llewyrchus drwy leihau anghydraddoldebau ar draws
yr amgylchedd, addysg, gwaith, incwm a thai.
- Gwella lles cymunedol drwy alluogi pobl o bob oed i fyw bywydau iach ac annibynnol.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod angen mabwysiadu'r cynllun cyn 4 Mai. Roedd y cynllun drafft wedi'i atodi i'r adroddiad ar gyfer unrhyw sylwadau a fyddai'n cael eu bwydo i mewn i'r cynllun.
Eglurodd y Cynghorydd Johnson fod yr adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos ddiwethaf, a gofynnwyd i'r Aelodau gyflwyno unrhyw sylwadau y tu allan i'r cyfarfod hwnnw.
PENDERFYNWYD:
Cefnogi Cynllun Lles drafft Sir y Fflint a Wrecsam ar gyfer 2023-28.