Mater - cyfarfodydd

Consultation on the Flintshire and Wrexham Public Services Board (PSB) draft Well-being Plan 2023-28

Cyfarfod: 15/12/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 62)

62 Ymgynghoriad ar Gynllun Lles drafft 2023-28 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Sir y Fflint a Wrecsam pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        Rhannu’r Cynllun Lles Drafft gyda’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, sy’n cynnwys amcanion a chamau gweithredu lles pum mlynedd newydd mae’r Cyngor wedi ymrwymo i’w cyflawni mewn cydweithrediad â’i sefydliadau partner BGC.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Gynllun Lles Drafft Sir y Fflint a Wrecsam ar gyfer 2023-28, sy’n nodi’r amcanion lles lleol a’r camau i’w cymryd ar y cyd â sefydliadau partner y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Roedd copïau o’r cynllun drafft yn cael eu rhannu ag ymgyngoreion statudol fel rhan o’r cyfnod ymgynghori  sy’n dod i ben ar 5 Chwefror 2023.

 

Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd yr amcanion i wella canlyniadau i bawb, anogodd y Cynghorydd Paul Johnson Aelodau i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y gellid ail-eirio’r frawddeg dan y pennawd ‘Cymunedau - ffyniant a thegwch’ er eglurder. Anogodd Aelodau i’w gopïo i negeseuon os oeddent yn cyflwyno sylwadau drwy corporatebusiness@flintshire.gov.uk. Neu, gallai Aelodau ymateb drwy’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bill Crease a Kevin Rush.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi Cynllun Lles drafft Sir y Fflint a Wrecsam 2023-28 a’r cyfnod ymgynghori.