Mater - cyfarfodydd

The School Standards and Organisation (Wales) Act 2013, School Organisation Code for an enlargement of the premises of a school for Drury C.P. School and Penyffordd C.P. School

Cyfarfod: 20/12/2022 - Cabinet (eitem 101)

101 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgol (Cymru) 2013, Cod Trefniadaeth Ysgolion ar gyfer ehangu eiddo ysgol ar gyfer Ysgol Gynradd Gymunedol Drury ac Ysgol Gynradd Gymunedol Penyffordd pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        I hysbysu’r Cabinet o ymatebion o’r cyfnod Gwrthwynebiad Statudol ar gyfer ehangu eiddo mewn dwy ysgol - Ysgol Gynradd Gymunedol Drury ac Ysgol Gynradd Gymunedol Penyffordd ac i wahodd y Cabinet i benderfynu ar y Cynigion Statudol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad, a oedd yn rhoi gwybodaeth am yr ymatebion o’r cyfnod Gwrthwynebiadau Statudol, o dan adran 49 o ‘Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, Cod Trefniadaeth Ysgolion’ ar gyfer ehangu safle dwy ysgol – Ysgol Gynradd Drury ac Ysgol Gynradd Penyffordd.

 

Gofynnwyd i'r Cabinet benderfynu ar y Cynigion Statudol a gyflwynwyd ar gyfer ehangu'r ddwy ysgol hynny.

 

Dechreuodd ymgynghoriad statudol ar y cynigion ar gyfer Ysgol Gynradd Drury ar 1 Mawrth 2022 a daeth i ben ar 11 Ebrill 2022. Cafwyd 42 o ymatebion gan gynnwys ymateb ffurfiol gan Estyn a Chyngor Disgyblion yr ysgol. Roedd 90% o’r ymatebwyr yn cefnogi’r cynnig.

 

Dechreuodd ymgynghoriad statudol ar y cynigion ar gyfer Ysgol Gynradd Penyffordd ar 1 Mawrth 2022 a daeth i ben ar 11 Ebrill 2022. Cafwyd 84 o ymatebion gan gynnwys ymateb ffurfiol gan Estyn a disgyblion yr ysgol. Roedd 73% o’r ymatebwyr yn cefnogi’r cynnig.  Cafwyd un gwrthwynebiad ac amlinellwyd y manylion yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) pe byddent yn cael eu cymeradwyo gan y Cabinet, byddai llythyrau penderfyniad yn cael eu cyhoeddi ym mis Ionawr.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi'r ymatebion o'r cyfnod Gwrthwynebiadau Statudol ar gyfer Ysgol Gynradd Penyffordd ac Ysgol Gynradd Drury a chymeradwyo’r cynigion i gynyddu capasiti'r ysgolion.