Mater - cyfarfodydd
The School Standards and Organisation (Wales) Act 2013, School Organisation Code for an enlargement of the premises of a school for Drury C.P. School and Penyffordd C.P. School
Cyfarfod: 20/12/2022 - Cabinet (eitem 101)
Pwrpas: I hysbysu’r Cabinet o ymatebion o’r cyfnod Gwrthwynebiad Statudol ar gyfer ehangu eiddo mewn dwy ysgol - Ysgol Gynradd Gymunedol Drury ac Ysgol Gynradd Gymunedol Penyffordd ac i wahodd y Cabinet i benderfynu ar y Cynigion Statudol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for The School Standards and Organisation (Wales) Act 2013, School Organisation Code for an enlargement of the premises of a school for Drury C.P. School and Penyffordd C.P. School, eitem 101 PDF 176 KB
- Enc. 2 for The School Standards and Organisation (Wales) Act 2013, School Organisation Code for an enlargement of the premises of a school for Drury C.P. School and Penyffordd C.P. School, eitem 101 PDF 216 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgol (Cymru) 2013, Cod Trefniadaeth Ysgolion ar gyfer ehangu eiddo ysgol ar gyfer Ysgol Gynradd Gymunedol Drury ac Ysgol Gynradd Gymunedol Penyffordd
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad, a oedd yn rhoi gwybodaeth am yr ymatebion o’r cyfnod Gwrthwynebiadau Statudol, o dan adran 49 o ‘Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, Cod Trefniadaeth Ysgolion’ ar gyfer ehangu safle dwy ysgol – Ysgol Gynradd Drury ac Ysgol Gynradd Penyffordd.
Gofynnwyd i'r Cabinet benderfynu ar y Cynigion Statudol a gyflwynwyd ar gyfer ehangu'r ddwy ysgol hynny.
Dechreuodd ymgynghoriad statudol ar y cynigion ar gyfer Ysgol Gynradd Drury ar 1 Mawrth 2022 a daeth i ben ar 11 Ebrill 2022. Cafwyd 42 o ymatebion gan gynnwys ymateb ffurfiol gan Estyn a Chyngor Disgyblion yr ysgol. Roedd 90% o’r ymatebwyr yn cefnogi’r cynnig.
Dechreuodd ymgynghoriad statudol ar y cynigion ar gyfer Ysgol Gynradd Penyffordd ar 1 Mawrth 2022 a daeth i ben ar 11 Ebrill 2022. Cafwyd 84 o ymatebion gan gynnwys ymateb ffurfiol gan Estyn a disgyblion yr ysgol. Roedd 73% o’r ymatebwyr yn cefnogi’r cynnig. Cafwyd un gwrthwynebiad ac amlinellwyd y manylion yn yr adroddiad.
Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) pe byddent yn cael eu cymeradwyo gan y Cabinet, byddai llythyrau penderfyniad yn cael eu cyhoeddi ym mis Ionawr.
PENDERFYNWYD:
Nodi'r ymatebion o'r cyfnod Gwrthwynebiadau Statudol ar gyfer Ysgol Gynradd Penyffordd ac Ysgol Gynradd Drury a chymeradwyo’r cynigion i gynyddu capasiti'r ysgolion.