Mater - cyfarfodydd
Governance Update and Consultations
Cyfarfod: 23/11/2022 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 30)
30 Diweddariad Llywodraethu ac Ymgynghoriadau PDF 163 KB
Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion yn ymwneud â llywodraethu, yn cynnwys y Polisi Llywodraethu a Datganiad Cydymffurfio i’w cymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Governance Update and Consultations, eitem 30 PDF 201 KB
- Enc. 2 for Governance Update and Consultations, eitem 30 PDF 74 KB
- Enc. 3 for Governance Update and Consultations, eitem 30 PDF 890 KB
- Enc. 4 for Governance Update and Consultations, eitem 30 PDF 97 KB
- Enc. 5 for Governance Update and Consultations, eitem 30 PDF 118 KB
- Enc. 6 for Governance Update and Consultations, eitem 30 PDF 78 KB
- Enc. 7 for Governance Update and Consultations, eitem 30 PDF 41 KB
- Enc. 8 for Governance Update and Consultations, eitem 30 PDF 141 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Diweddariad Llywodraethu ac Ymgynghoriadau
Cofnodion:
Bu i Mr Latham longyfarch Mrs Fielder a Mrs K Williams a oedd eu dwy wedi cael eu henwebu a’u cynnwys ar restr fer y Gwobrau Women in Pensions. Dywedodd hefyd fod Mrs K Williams wedi ennill canmoliaeth uchel. Bu i’r Pwyllgor longyfarch Mrs Fielder a Mrs William.
Nododd Mr Latham y pwyntiau allweddol canlynol:
- Roedd paragraff 1.01 yn amlinellu’r diweddariad ar y cynllun busnes, ac fe gadarnhaodd Mr Latham fod cynnydd da yn cael ei wneud. Atgoffodd aelodau diweddaraf y Pwyllgor, nad oedd wedi gallu mynychu’r sesiynau hyfforddiant cynefino, i gadarnhau pan yr oeddent wedi gwylio’r recordiadau perthnasol.
- Nid oedd yr ymgynghoriad ar God Ymarfer Unigol y Rheoleiddiwr Pensiynau a’r Adolygiad Llywodraethu Da wedi’i gwblhau ac felly roedd wedi cael ei symud ymlaen yn y cynllun busnes.
- Roedd Mrs E Williams, a oedd yn wreiddiol wedi cael ei phenodi fel Cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun (Nad Ydynt yn Rhan o Undeb Lafur) y Bwrdd Pensiwn am dair blynedd hyd at fis Chwefror 2023, wedi cael ei hail-benodi i’r swydd hon am ddwy flynedd arall.
- Roedd materion cenedlaethol yr oedd yn rhaid i’r Pwyllgor fod yn ymwybodol ohonynt wedi’u rhestru ym mharagraffau 1.06 i 1.11.
- Roedd y Polisi Llywodraethu a Datganiad Cydymffurfio wedi cael ei adolygu ac roedd y newidiadau arfaethedig wedi’u hamlygu yn Atodiad 3. Yn cynnwys y newidiadau yn ymwneud â Phennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd yn cymryd cyfrifoldebau gan y Prif Weithredwr. Gofynnodd Mr Latham i’r Pwyllgor gymeradwyo’r diweddariadau i’r Polisi a’r Datganiad.
- Roedd yr adolygiad blynyddol o’r mesurau amcanion ar gyfer polisïau a strategaethau yn ymwneud â llywodraethu wedi’i gynnwys yn Atodiad 4. Roedd y rhan fwyaf o fewn y targed, ond roedd gan rai meysydd gwaith i’w gwblhau o hyd.
- Fel yr amlinellwyd ym mharagraff 1.14, braf iawn oedd gweld canran uchel o aelodau yn mynychu’r hyfforddiant. Roedd rhestr o ddigwyddiadau hyfforddiant yn y dyfodol a gofynnodd Mr Latham i aelodau’r Pwyllgor nodi’r rhain a mynychu os yn bosibl.
- Roedd problemau recriwtio a chadw staff ar hyn o bryd a oedd yn achosi straen ychwanegol oherwydd swm y gwaith ychwanegol oherwydd ffactorau y tu allan i reolaeth y Gronfa megis y Dangosfwrdd Pensiynau a Rhaglen Unioni McCloud. Roedd gwaith pellach hefyd yn cael ei wneud i ddeall a fyddai cynnydd mewn llif gwaith gweinyddol o safbwynt aelodaeth yn parhau.
Dywedodd Mrs Fielder fod e-bost wedi cael ei anfon yngl?n â’r Seminar Buddsoddi LGC a fydd yn cael ei gynnal yn Carden Park. Gofynnodd i’r aelodau roi gwybod iddi cyn gynted â phosib os oeddent yn dymuno mynychu er mwyn i’r Gronfa allu manteisio ar y gostyngiadau cynnar, a dywedodd ei fod bod amser yn ddigwyddiad gwerthfawr ac yn lleol.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn ystyried y diweddariad.
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi’r newidiadau i amserlenni yn y cynllun busnes ar gyfer eitemau G3 a G5, oherwydd oedi gan y Llywodraeth o ran symud ymlaen â Chod Unigol y Rheoleiddiwr Pensiynau a chanlyniadau adolygiad Llywodraethu Da y ... view the full Cofnodion text for item 30