Mater - cyfarfodydd
Draft Funding Strategy Statement
Cyfarfod: 23/11/2022 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 26)
26 Datganiad Strategaeth Gyllido Drafft PDF 127 KB
Darparu Aelodau’r Pwyllgor â chanlyniadau’r Prisiad Actiwaraidd cychwynnol a’r Datganiad Strategaeth Gyllido drafft i’w ystyried, adolygu a’i gymeradwyo ar gyfer ymgynghori gyda Chyflogwyr.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Draft Funding Strategy Statement, eitem 26 PDF 879 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Datganiad Strategaeth Gyllido Drafft
Cofnodion:
Eglurodd Mr Middleman mai pwrpas y Datganiad Strategaeth Gyllido oedd i gydbwyso fforddiadwyedd cyfraniadau cyflogwyr yn erbyn cynaliadwyedd cyfraniadau yn y tymor hir ac iechyd ariannol y Gronfa. Nododd y pwyntiau allweddol canlynol yngl?n â’r Datganiad Strategaeth Gyllido drafft:
- Bydd y Datganiad Strategaeth Gyllido drafft yn cael ei gynnwys yn yr ymgynghoriad â chyflogwyr ar gyfraddau cyfraniad cyflogwyr o 1 Ebrill 2023.
- Pwysleisiwyd er bod y Datganiad Strategaeth Gyllido yn strwythur i gefnogi cyfraniadau cynaliadwy, mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb i ystyried hyn yng nghyd-destun eu cyllidebau eu hunain, yn awr ac yn y dyfodol. Felly, mae cyfathrebu â chyflogwyr ar y mater hwn yn hollbwysig, oherwydd bod derbyn cyfraniadau llawer iawn llai r?an, oherwydd sefyllfaoedd cyllido gwell, am ei gwneud yn anoddach i gyflawni cyfraniadau cynaliadwy yn y dyfodol. Byddai gohebiaeth ysgrifenedig a thrafodaethau yn cael eu cynnal, yn cynnwys yn y Cyd-Gyfarfod Ymgynghorol Blynyddol ym mis Rhagfyr 2022 a byddai adborth gan gyflogwyr ar ffactorau amrywiol yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor er mwyn rhoi cymeradwyaeth derfynol i’r Datganiad Strategaeth Gyllido ym mis Chwefror 2023.
- Mae isafswm cyfraniad ar gyfer cyflogwyr wedi’i osod drwy baramedrau’r Datganiad Strategaeth Gyllido i dargedu cynaliadwyedd yn y dyfodol, ac mae hyblygrwydd o fewn y paramedrau hyn i gyflogwyr allu talu mwy na’r isafswm yn dibynnu ar eu hamgylchiadau.
O ran y paramedrau allweddol ar gyfer rhagdybiaethau o baragraff 1.05 ymlaen, nodwyd y canlynol gan Mr Middleman:
- Mae budd-daliadau yn ymwneud â chwyddiant ac felly caiff rhwymedigaethau eu gyrru gan chwyddiant. Roedd hyn yn rhagdybiaeth allweddol fel rhan o brisiad 2022.
- Roedd sawl safbwynt am lefel uchel chwyddiant ar hyn o bryd a pha mor hir y byddai’n parhau, a’i bod yn bwysig i’r Gronfa roi ystyriaeth resymol i’r lefel hon dros y blynyddoedd nesaf. Cynigwyd cynyddu lefel gyfartalog hirdymor chwyddiant o 2.4% y flwyddyn i 3.1% y flwyddyn, a oedd yn adlewyrchiad o’r disgwyliad y byddai chwyddiant yn aros yn uchel dros y blynyddoedd nesaf ac yna’n lleihau.
- Yr agwedd arall o ran chwyddiant oedd y ffaith fod y cynnydd pensiwn a roddwyd yn seiliedig ar chwyddiant yn y 12 mis o fis Medi i fis Medi bob blwyddyn. Felly roedd disgwyl i’r cynnydd pensiwn yn 2023 fod yn 10.1%. Felly, roedd penderfynwyd cynnwys lwfans ar gyfer chwyddiant hysbys i fireinio llif arian y Gronfa h.y. y rhwymedigaethau.
- Caiff cyfraniadau cyflogwyr eu gyrru gan y berthynas rhwng yr enillion disgwyliedig ar yr asedau (cyfradd gostyngiad) a chyfradd chwyddiant, gan fod hyn yn pennu cyfran y buddion a delir amdanynt drwy enillion asedau yn y tymor hir yn erbyn y rhai hynny a delir amdanynt drwy gyfraniadau cyflogwr.
- Ar ddyddiad y prisiad, roedd gan Mr Middleman syniad o’r hyn fyddai efallai’n rhagdybiaeth resymol ar gyfer y gyfradd gostyngiad a chwyddiant ond, o fis Mawrth 2022, gwelwyd newid sylweddol i gyfraddau llog, disgwyliadau a’r rhagolygon economaidd byd-eang. Ystyriwyd hyn a daethpwyd i’r casgliad bod y rhagdybiaethau yn parhau i fod yn rhesymol ... view the full Cofnodion text for item 26