Mater - cyfarfodydd
Managed Stores Contract
Cyfarfod: 22/11/2022 - Cabinet (eitem 87)
Contract Rheoli Storfeydd
Pwrpas: Cymeradwyo dyfarnu’r contract rheoli storfeydd drwy fframwaith deunyddiau Cymru gyfan ADRA.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (87/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (87/3)
- Gweddarllediad ar gyfer Contract Rheoli Storfeydd
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cyflenwi deunyddiau adeiladu a gwasanaethau cysylltiedig yn y dyfodol trwy reoli storfeydd trwy gontract dyfarnu uniongyrchol Fframwaith Deunyddiau Cymru Gyfan ADRA.
PENDERFYNWYD:
(a) Dyfarnu’r contract rheoli storfeydd trwy Fframwaith Deunyddiau Cymru Gyfan ADRA; a
(b) Nodi’r dyfarniad ar gyfer contract pedair blynedd gyda’r opsiwn o’i ymestyn am bedair blynedd arall, yn amodol ar berfformiad.