Mater - cyfarfodydd
Medium Term Financial Strategy and Budget 2023/24
Cyfarfod: 17/11/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 47)
47 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig A Chyllideb 2023/24 PDF 75 KB
Pwrpas: Darparu diweddariad ar y gofyniad cyllideb ychwanegol ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 cyn y gyfres o gyfarfodydd Trosolwg a Chraffu ym mis Rhagfyr.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Cabinet report, eitem 47 PDF 120 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Strategaeth Ariannol Tymor Canolig A Chyllideb 2023/24
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad i ddiweddaru Aelodau ar y gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer 2023/24 cyn y cyfarfodydd Trosolwg a Chraffu ym mis Rhagfyr, a derbyn y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro gan Lywodraeth Cymru (LlC) ar 14 Rhagfyr 2022.
Yn y cyfarfod fis Hydref, roedd y rhagolwg diwygiedig yn dangos isafswm gofyniad cyllidebol o £24.348 miliwn ychwanegol o adnoddau refeniw ar gyfer 2022/23. Roedd gwaith pellach i ganfod newidiadau a risgiau sylweddol wedi arwain at gynnydd pellach, fel yr adroddwyd i’r briffiau cyllid Aelodau diweddar, ac fel y crynhowyd yn yr adroddiad. Er bod gwaith yn parhau er mwyn sefydlu’r effaith yn llawn, rhagwelwyd y byddai’r gofyniad cyllidebol ychwanegol yn gallu codi i oddeutu £32 miliwn. Roedd nifer o risgiau parhaus a allai gael effaith pellach a byddai hyn yn parhau i gael ei adolygu, gan gynnwys lleoliadau tu allan i’r Sir a dyfarniadau cyflog athrawon. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys diweddariad ar gynnydd gyda datrysiadau cyllideb a’r amserlen yn arwain at y setliad cyllidebol terfynol. Byddai trosolwg o’r sefyllfa ar draws y portffolios yn cael ei ddarparu yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Ionawr.
Wrth gyfleu difrifoldeb y sefyllfa, dywedodd y Prif Weithredwr y cydnabyddir fod graddfa’r sefyllfa bresennol yn cyflwyno heriau sylweddol wrth osod cyllideb gytbwys.
Dywedodd y Cadeirydd nad oedd yr adroddiadau a briffiau diweddar yn rhoi unrhyw ddatrysiadau ar sut i gydbwyso’r gyllideb ac y byddai dewisiadau lliniaru angen cael eu rhannu er mwyn galluogi Aelodau i ystyried a gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.
Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y gwaith a gyflawnwyd hyd yn hyn yn adlewyrchu graddfa’r her ariannol. Dywedodd y byddai manylion cynigion effeithlonrwydd portffolio yn cael eu rhannu gyda’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol ym mis Rhagfyr, ynghyd â throsolwg o effeithlonrwydd ar draws holl bortffolios. Tra bod gwaith ar gyllid corfforaethol yn parhau, byddai canlyniadau yn cael eu rhannu gydag Aelodau a byddai derbyn y Setliad Dros Dro yn darparu eglurder raddfa’r bwlch cyllidebol a’r dewisiadau ar gael.
Mewn ymateb i’r Cadeirydd, rhannodd y Prif Weithredwr ei bryderon a dywedodd bod holl awdurdodau lleol yng Nghymru mewn sefyllfa debyg. Rhoddodd sicrwydd fod swyddogion wedi cymryd pob cyfle i adolygu effeithlonrwydd a bod gwaith yn parhau i gyflwyno sefyllfa y gellir ei ddarparu.
Cafodd ei sylwadau ei gefnogi gan Aelod Cabinet y Cynghorydd Paul Johnson a ddywedodd bod hwn yn sefyllfa digynsail yn cynnwys nifer o faterion tu allan i reolaeth y Cyngor. Roedd yn gobeithio y byddai eglurder yn dilyn cyfarfod cyllid gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a holl awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.
Mynegodd y Cynghorydd Bill Crease ei bryderon o ran yr amser ar gael i wneud penderfyniadau heriol iawn er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg a’r effeithiau posibl ar drigolion.
Cytunodd y Cynghorydd Bernie Attridge fod hwn yn sefyllfa digynsail ac nid oedd yn gallu canfod beth ellir ei wneud i osod cyllideb gytbwys, o ystyried fod LlC eisoes wedi darparu ffigyrau ar gyfer Setliad dangosol. Aeth ymlaen i ddweud y ... view the full Cofnodion text for item 47