Mater - cyfarfodydd
Social Value Performance and Progress Update
Cyfarfod: 17/01/2023 - Cabinet (eitem 111)
111 Y Wybodaeth Ddiweddaraf ar Berfformiad a Chynnydd Gwerth Cymdeithasol PDF 121 KB
Pwrpas: Darparu data perfformiad ar y gwerth cymdeithasol a grëwyd yn Sir y Fflint yn y cyfnodau adrodd a’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd y gwaith a wnaed ac a gynlluniwyd o ran y rhaglen waith gwerth cymdeithasol ehangach.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Social Value Performance and Progress Update, eitem 111 PDF 8 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Y Wybodaeth Ddiweddaraf ar Berfformiad a Chynnydd Gwerth Cymdeithasol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd mai creu gwerth cymdeithasol o weithgareddau comisiynu a chaffael y Cyngor oedd y cyfrannwr mwyaf at gynyddu gwerth cymdeithasol a’i fod yn parhau yn un o brif feysydd blaenoriaeth y Cyngor.
Amlinellodd yr adroddiad ddata perfformiad ar gyfer blwyddyn ariannol lawn 2021-22 yn ogystal â chwe mis cyntaf 2022/23.
Amlinellodd hefyd y camau nesaf i roi’r argymhellion a wnaed ac a gymeradwywyd gan y Cabinet y flwyddyn flaenorol ar waith.
Diolchodd y Cynghorydd Bithell i’r Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol am yr adroddiad a’i chanmol am yr hyn a gyflawnwyd hyd yma. Wrth ymateb i gwestiwn, eglurodd y swyddog bod pob contract yn cael ei asesu ar nifer o agweddau, yn cynnwys pris ac ansawdd a bod gwerth cymdeithasol yn rhan o unrhyw beth dros £25,000. Roedd gwaith ar y gweill i sicrhau bod trothwyon yn eu lle fel bod gwerth cymdeithasol yn cael ei gynnwys ym mhob ymarfer caffael. Wrth ymateb i gwestiwn arall, eglurodd y Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol os na fyddai prentis wedi cwblhau’r oriau angenrheidiol, byddai’r oriau a gwblhawyd yn cael eu dwyn ymlaen i swydd arall yn y Cyngor.
Wrth ymateb i sylw gan y Cynghorydd Hughes, eglurodd y Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol fod carbon wedi bod yn rhan o dargedau gwerth cymdeithasol ar gyfer contractau dros £1 miliwn, ond pan oedd yn bosibl byddai mesurau carbon hefyd yn cael eu cynnwys mewn contractau llai.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r perfformiad cadarnhaol a gyflawnwyd o ran creu gwerth cymdeithasol yn ystod 2021/22, yn ogystal ag yn chwe mis cyntaf 2022/23; a
(b) Cefnogi’r camau nesaf a gynigir.