Mater - cyfarfodydd
Maes Gwern Contractual Arrangements
Cyfarfod: 14/11/2022 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 44)
Trefniadau Contract Maes Gwern
I roi’r newyddion diweddaraf am y cynnydd o ran y cynllun gweithredu.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (44/2)
- Gweddarllediad ar gyfer Trefniadau Contract Maes Gwern
Cofnodion:
Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar gynnydd gyda’r cynllun gweithredu yn ymwneud ag argymhellion a oedd yn deillio o adroddiad Archwilio Mewnol mis Hydref 2021 ar drefniadau contract ar gyfer datblygiad Maes Gwern. Gofynnwyd am yr adroddiad yn dilyn pryderon y Pwyllgor ynghylch diffyg cynnydd gyda chamau gweithredu, yn benodol y rhai a oedd wedi’u nodi fel risgiau coch.
Dywedodd y Rheolwr Rhaglen Tai a Chyflawni Strategol er bod rhywfaint o waith yn mynd rhagddo, roedd cynnydd sylweddol wedi’i wneud i sicrhau fframwaith cadarn ar gyfer mesur a chofnodi gwybodaeth newydd. Rhannodd wybodaeth ar amserlenni diwygiedig ar gyfer gwerth llawn y derbyniadau cyfalaf a datrysiad trefniadau contract.
Rhoddodd y Prif Weithredwr gyd-destun cefndirol i raddfa a chymhlethdod y prosiect a rhoddodd sicrwydd y byddai’r prosiect mynd i’r afael ag egwyddorion dysgu ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) mai elfen allweddol o ddysgu oedd addasu prosesau i adlewyrchu argymhellion rheoli a oedd yn deillio o adolygiadau Archwilio Mewnol. Ategwyd ei awgrym am gyfarfod adolygu ôl-prosiect ar y cyd i gasglu’r hyn a ddysgwyd gan y Cadeirydd, a bu iddo ei gynnig fel argymhelliad ychwanegol.
Gan ymateb i gwestiynau gan Allan Rainford, roedd swyddogion yn rhagweld y byddai gwerth llawn y derbyniadau cyfalaf yn cael eu derbyn o fewn y terfyn amser a ddyfynnwyd ac y byddai’n rhannu gwybodaeth ar adnoddau cyfredol o fewn y tîm Cyllid.
Gan ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol eglurhad ar y derbyniadau cyfalaf a dderbyniwyd hyd yma, ac roedd trywydd archwilio ar eu cyfer. Ailadroddodd y Cynghorydd Parkhurst ei bryderon cynharach ynghylch y ffaith bod gan y Pwyllgor ddigon o arolygiaeth o wybodaeth fel y gellir sicrhau bod proses yn cael ei dilyn. Yn ystod y drafodaeth ar y pryderon hyn, rhoddodd swyddogion eglurder ynghylch y timau a oedd yn rhan o’r broses ar gyfer gwahanu dyletswyddau. O ran pryderon am dryloywder gwybodaeth, cytunodd swyddogion i ystyried ymhellach y ffordd orau i adrodd am dderbyniadau cyfalaf sy’n ymwneud â phrosiectau parhaus heb dorri cyfrinachedd masnachol.
Bu i’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg sôn am gyfarfod sydd ar y gweill gyda swyddogion Tai i bennu p’un a ellir cau unrhyw un o’r camau gweithredu.
Cafodd yr argymhellion, fel y’i diwygiwyd eu cynnig a’u heilio gan y Parchedig Brian Harvey ac Allan Rainford.
Ar gais y Cadeirydd, bydd diweddariad byr ar gynnydd gyda’r cynllun gweithredu’n cael ei drefnu ar gyfer cyfarfod mis Ionawr.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad a’r amserlen ddiwygiedig ar gyfer y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau; a
(b) Bod cyfarfod adolygu ôl-prosiect ar draws awdurdod yn cael ei gynnal i sicrhau y tynnir sylw at yr holl ddysgu a’i fod yn cael ei gofnodi.