Mater - cyfarfodydd
Timings of meetings and meeting format survey
Cyfarfod: 09/11/2022 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 17)
17 Arolwg ar amseroedd a fformat cyfarfodydd PDF 104 KB
Pwrpas: Gofyn am farn y Pwyllgor yngl?n â’r arolwg arfaethedig ar amseroedd a fformat cyfarfodydd.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Timings of meetings and meeting format survey, eitem 17 PDF 101 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Arolwg ar amseroedd a fformat cyfarfodydd
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i geisio barn y Pwyllgor ar yr arolwg arfaethedig ar amseroedd a fformat cyfarfodydd. Byddai’r arolwg yn rhoi cyfle i’r holl Aelodau rannu eu barn ynghylch pryd a sut y byddai cyfarfodydd yn cael eu cynnal, gan ystyried gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ar gyfarfodydd aml-leoliad.
Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) gefndir ar y newidiadau deddfwriaethol a oedd yn cefnogi hygyrchedd ehangach i gyfarfodydd ffurfiol. Gofynnodd a oedd y Pwyllgor yn fodlon y byddai'r arolwg yn galluogi pob unigolyn i fynegi ei farn yn llawn.
Eiliwyd cynnig y Cynghorydd Alasdair Ibbotson bod y Pwyllgor yn symud ymlaen gyda’r argymhelliad gan y Cynghorydd Gillian Brockley. Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Michelle Perfect a Ted Palmer.
Eglurwyd y byddai'r arolwg yn cael ei gyhoeddi'n electronig ac y byddai'r Aelodau'n cael copi papur ar gais. Gofynnodd y Cynghorydd Ted Palmer a Gillian Brockley am gopïau papur.
Byddai canlyniad yr arolwg yn cael ei adrodd i'r Pwyllgor ym mis Ionawr 2023 ac unrhyw newidiadau yn cael eu hymgorffori yn y Rhestr o Gyfarfodydd ar gyfer 2023/24.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cytuno â'r dull arfaethedig o gynnal yr arolwg ac yn cymeradwyo'r ffurflen arolwg i'w defnyddio.