Mater - cyfarfodydd
MTFS & Budget Setting 2023-24 (Stage 2) (S&HC OSC)
Cyfarfod: 08/12/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 34)
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Gosod Cyllideb 2023-24 (Cam 2)
Pwrpas: Bod y Pwyllgor yn adolygu a rhoi sylw ar bwysau cost a’r strategaeth gyffredinol ar gyfer y gyllideb, a chynghori ar unrhyw feysydd o effeithlonrwydd cost yr hoffent edrych arnynt ymhellach.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (34/2)
- Gweddarllediad ar gyfer Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Gosod Cyllideb 2023-24 (Cam 2)
Cofnodion:
Cynigiwyd gwahardd y wasg a’r cyhoedd gan y Cynghorydd Owen, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Robert Davies.
Darparodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) gyflwyniad, a oedd yn cynnwys y meysydd canlynol:-
· Atgoffa am Sefyllfa Gyllideb y Cyngor
· Pwysau costau ar y Gwasanaethau Cymdeithasol
· Gostyngiad yng Nghyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol
· Effeithlonrwydd y Gorffennol - Gwasanaethau Cymdeithasol
· Risg, Materion a Chydnerthedd- Gofal Cymdeithasol i Oedolion
· Risg, Materion a Chydnerthedd - Gwasanaethau Plant
· Risg, Materion a Chydnerthedd - Diogelu a Chomisiynu
· Pwysau Costau y Tu Allan i’r Sir
· Gweithdrefn y gyllideb – Cam 2
· Gweithdrefn y gyllideb – Cam 3 (Terfynol)
Yn dilyn y cyflwyniad, fe wnaeth y swyddogion ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Owen.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi pwysau costau portffolios Gofal Cymdeithasol;
(b) Nodi dewisiadau portffolios Gofal Cymdeithasol i leihau cyllidebau; a
(c) Bod y Pwyllgor yn cynghori ar unrhyw feysydd effeithlonrwydd cost y mae'n credu y dylid eu harchwilio ymhellach.