Mater - cyfarfodydd

Budget 2023/24 - Stage 2

Cyfarfod: 15/12/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 57)

Cyllideb 2023/24 - Cam 2

Pwrpas:        Bod y Pwyllgor yn adolygu a rhoi sylw ar bwysau cost a’r strategaeth gyffredinol ar gyfer y gyllideb, a chynghori ar unrhyw feysydd o effeithlonrwydd cost yr hoffent edrych arnynt ymhellach.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa ddiweddaraf Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor 2023/24 yn dilyn derbyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a’r broses ffurfiol o osod cyllideb.

 

Roedd Cam 1 y broses gyllideb wedi sefydlu gwaelodlin gadarn o bwysau costau ar draws y portffolios, a rannwyd mewn sesiynau briffio i Aelodau. Fel rhan o Gam 2, roedd y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu r?an yn cael eu gwahodd i adolygu pwysau costau yn fanwl, oedd yn cyfrannu at y gofynion ychwanegol yng nghyllidebau eu portffolios ynghyd ag opsiynau ar gyfer lleihau costau portffolios.   Atgoffwyd Aelodau bod y sefyllfa ddiweddaraf a adroddwyd i’r Cabinet ym mis Tachwedd yn cynghori y gallai risgiau sy’n weddill gynyddu’r gofyniad cyllideb ychwanegol i tua £32 miliwn. Oherwydd maint y bwlch posibl yn y gyllideb, gofynnwyd i bob gwasanaeth ddynodi opsiynau i reoli eu gwasanaethau ar gyllideb lai. Yn ogystal â chael trosolwg o opsiynau lleihau’r gyllideb i bob portffolio, gwahoddwyd y Pwyllgor i adolygu datrysiadau mewn Gwasanaethau Corfforaethol ac Asedau a nodi unrhyw feysydd effeithlonrwydd cost pellach y gellid eu harchwilio. 

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y setliad dangosol i Sir y Fflint yn gynnydd o tua £19.5 miliwn (8.4%), ac er ei fod yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, ni fydd yn debygol o fodloni ond tua 50% o bwysau costau’r Cyngor.     Roedd y goblygiadau a’r meysydd risg sy’n weddill yn cael eu hadolygu i roi diweddariad ar lafar i’r Cabinet ar 20 Rhagfyr cyn adrodd yn ffurfiol ym mis Ionawr. Bydd y sefyllfa ddiweddaraf yn cael ei hadrodd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 12 Ionawr ynghyd ag adborth o bob sesiwn Trosolwg a Chraffu a byddai ar agor i bob Aelod. Byddai cynigion cyllideb terfynol, yn cynnwys gosod treth y cyngor, yn dilyn ym mis Chwefror.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr, y Prif Swyddog  (Llywodraethu), y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, Rheolwr Corfforaethol (Pobl a Datblygu Sefydliadol) a’r Rheolwr Corfforaethol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) gyflwyniad manwl yn trafod pwysau costau mewn Gwasanaethau Corfforaethol ac Asedau, fel a ganlyn:

 

·         Pwrpas a Chefndir

·         Atgoffa am Sefyllfa Gyllideb y Cyngor

·         Pwysau costau corfforaethol / Gostyngiadau yn y gyllideb / Effeithlonrwydd yn y gorffennol:

o   Llywodraethu

o   Pobl ac Adnoddau

o   Asedau

o   Prif Weithredwr

o   Canolog a Chorfforaethol

·         Y Camau Nesaf

 

Yn dilyn y cyflwyniad, ymatebodd swyddogion ac Aelodau’r Cabinet i gwestiynau a sylwadau gan y Pwyllgor. Ar gais y Cynghorydd Alasdair Ibbotson, cytunodd y Rheolwr Corfforaethol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) i roi mwy o wybodaeth i’r Pwyllgor am yr asedau amaethyddol oedd wedi cyfrannu at y pwysau costau.

 

Diolchodd y Cynghorydd Dave Hughes i Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr am eu hymdrechion o ran y setliad dangosol positif ac awgrymodd efallai y byddai’r Pwyllgor yn dymuno gwneud hynny’n ffurfiol, ynghyd â Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru. Diolchodd i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’i dîm am eu gwaith gwerthfawr.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts mai ymdrechion holl swyddogion ac Aelodau’r Cyngor cyfan oedd wedi arwain at y canlyniad o ran y setliad.  ...  view the full Cofnodion text for item 57