Mater - cyfarfodydd
Budget 2023/24 - Stage 2
Cyfarfod: 15/12/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 57)
Cyllideb 2023/24 - Cam 2
Pwrpas: Bod y Pwyllgor yn adolygu a rhoi sylw ar bwysau cost a’r strategaeth gyffredinol ar gyfer y gyllideb, a chynghori ar unrhyw feysydd o effeithlonrwydd cost yr hoffent edrych arnynt ymhellach.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (57/2)
- Gweddarllediad ar gyfer Cyllideb 2023/24 - Cam 2
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa ddiweddaraf Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor 2023/24 yn dilyn derbyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a’r broses ffurfiol o osod cyllideb.
Roedd Cam 1 y broses gyllideb wedi sefydlu gwaelodlin gadarn o bwysau costau ar draws y portffolios, a rannwyd mewn sesiynau briffio i Aelodau. Fel rhan o Gam 2, roedd y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu r?an yn cael eu gwahodd i adolygu pwysau costau yn fanwl, oedd yn cyfrannu at y gofynion ychwanegol yng nghyllidebau eu portffolios ynghyd ag opsiynau ar gyfer lleihau costau portffolios. Atgoffwyd Aelodau bod y sefyllfa ddiweddaraf a adroddwyd i’r Cabinet ym mis Tachwedd yn cynghori y gallai risgiau sy’n weddill gynyddu’r gofyniad cyllideb ychwanegol i tua £32 miliwn. Oherwydd maint y bwlch posibl yn y gyllideb, gofynnwyd i bob gwasanaeth ddynodi opsiynau i reoli eu gwasanaethau ar gyllideb lai. Yn ogystal â chael trosolwg o opsiynau lleihau’r gyllideb i bob portffolio, gwahoddwyd y Pwyllgor i adolygu datrysiadau mewn Gwasanaethau Corfforaethol ac Asedau a nodi unrhyw feysydd effeithlonrwydd cost pellach y gellid eu harchwilio.
Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y setliad dangosol i Sir y Fflint yn gynnydd o tua £19.5 miliwn (8.4%), ac er ei fod yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, ni fydd yn debygol o fodloni ond tua 50% o bwysau costau’r Cyngor. Roedd y goblygiadau a’r meysydd risg sy’n weddill yn cael eu hadolygu i roi diweddariad ar lafar i’r Cabinet ar 20 Rhagfyr cyn adrodd yn ffurfiol ym mis Ionawr. Bydd y sefyllfa ddiweddaraf yn cael ei hadrodd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 12 Ionawr ynghyd ag adborth o bob sesiwn Trosolwg a Chraffu a byddai ar agor i bob Aelod. Byddai cynigion cyllideb terfynol, yn cynnwys gosod treth y cyngor, yn dilyn ym mis Chwefror.
Rhoddodd y Prif Weithredwr, y Prif Swyddog (Llywodraethu), y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, Rheolwr Corfforaethol (Pobl a Datblygu Sefydliadol) a’r Rheolwr Corfforaethol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) gyflwyniad manwl yn trafod pwysau costau mewn Gwasanaethau Corfforaethol ac Asedau, fel a ganlyn:
· Pwrpas a Chefndir
· Atgoffa am Sefyllfa Gyllideb y Cyngor
· Pwysau costau corfforaethol / Gostyngiadau yn y gyllideb / Effeithlonrwydd yn y gorffennol:
o Llywodraethu
o Pobl ac Adnoddau
o Asedau
o Prif Weithredwr
o Canolog a Chorfforaethol
· Y Camau Nesaf
Yn dilyn y cyflwyniad, ymatebodd swyddogion ac Aelodau’r Cabinet i gwestiynau a sylwadau gan y Pwyllgor. Ar gais y Cynghorydd Alasdair Ibbotson, cytunodd y Rheolwr Corfforaethol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) i roi mwy o wybodaeth i’r Pwyllgor am yr asedau amaethyddol oedd wedi cyfrannu at y pwysau costau.
Diolchodd y Cynghorydd Dave Hughes i Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr am eu hymdrechion o ran y setliad dangosol positif ac awgrymodd efallai y byddai’r Pwyllgor yn dymuno gwneud hynny’n ffurfiol, ynghyd â Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru. Diolchodd i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’i dîm am eu gwaith gwerthfawr.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts mai ymdrechion holl swyddogion ac Aelodau’r Cyngor cyfan oedd wedi arwain at y canlyniad o ran y setliad. ... view the full Cofnodion text for item 57