Mater - cyfarfodydd
MTFS & Budget Setting 2023-24 (Stage 2) (C&H OSC)
Cyfarfod: 14/12/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 10)
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Gosod Cyllideb 2023-24 (Cam 2)
Pwrpas: Bod y Pwyllgor yn adolygu a rhoi sylw ar bwysau cost a’r strategaeth gyffredinol ar gyfer y gyllideb, a chynghori ar unrhyw feysydd o effeithlonrwydd cost yr hoffent edrych arnynt ymhellach.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (10/2)
- Gweddarllediad ar gyfer Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Gosod Cyllideb 2023-24 (Cam 2)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar y sefyllfa ddiweddaraf ar gyfer Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2022/23 wrth aros am Setliad Llywodraeth Leol Cymru Dros Dro a’r broses pennu cyllideb ffurfiol.
Cafwyd cyflwyniad manwl gan y Rheolwr Gwasanaeth – Tai, Lles a Chymunedau, Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Atal a Rheolwr Rhaglen Tai a Chyflenwi Strategol a oedd yn ymdrin â’r meysydd canlynol:
· Nodyn i’ch atgoffa o Sefyllfa Gyllideb y Cyngor
· Pwysau o ran Costau / Gostyngiadau Cyllideb / Effeithlonrwydd y Gorffennol:
· Trefn y Gyllideb – Cam 2
· Trefn y Gyllideb – Cam 3 (Terfynol)
· Y Camau Nesaf
Yn dilyn y cyflwyniad, ymatebodd swyddogion ac Aelodau Cabinet i gwestiynau a sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor.
Mynegodd y Cynghorydd Bernie Attridge bryderon ynghylch y wybodaeth a ddarparwyd i'r Pwyllgor nad oedd yn teimlo ei bod yn ddigonol er mwyn i graffu priodol gael ei wneud. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod gwybodaeth wedi'i rhannu gyda'r holl Aelodau yn ystod y sesiynau gweithdy a bod y wybodaeth a ddarparwyd fel rhan o'r Rhaglen yn manylu ar yr holl wybodaeth berthnasol o ran y gyllideb a phwysau o ran costau.
Cafodd yr argymhellion, fel y’i hamlinellwyd o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd David Evans a’u heilio gan y Cynghorydd Geoff Collett.
PENDERFYNWYD:
Bod y sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor yn cael eu casglu a'u rhannu â'r Cabinet cyn ei gyfarfod ar 20 Rhagfyr, 2022.