Mater - cyfarfodydd
MTFS & Budget Setting 2023-24 (Stage 2) (EY&C OSC)
Cyfarfod: 01/12/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 37)
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Gosod Cyllideb 2023-24 (Cam 2)
Bod y Pwyllgor yn adolygu a rhoi sylw ar bwysau cost a’r strategaeth gyffredinol ar gyfer y gyllideb, a chynghori ar unrhyw feysydd o effeithlonrwydd cost yr hoffent edrych arnynt ymhellach.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (37/2)
- Gweddarllediad ar gyfer Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Gosod Cyllideb 2023-24 (Cam 2)
Cofnodion:
Darparwyd cyflwyniad ar y cyd gan y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) a’r Rheolwr Cyllid Strategol (Strategaeth Ariannol ac Yswiriant) a oedd yn ymwneud â’r meysydd canlynol:
· Pwrpas a Chefndir
· Atgoffa am Sefyllfa Gyllideb y Cyngor
· Pwysau Costau Addysg ac Ieuenctid
· Gostyngiadau yng Nghyllideb Addysg ac Ieuenctid
· Pwysau Costau Ysgolion
· Gostyngiadau yng Nghyllideb Ysgolion
· Cyllid Ysgolion - 2022/23
· Pwysau Costau y Tu Allan i’r Sir
· Camau nesaf ar gyfer y Broses o Osod Cyllideb 2023/24
Diolchodd Aelodau i swyddogion am eu cyflwyniad, y manylion a ddarparwyd a’r gwaith a gwblhawyd i ymgysylltu gydag ysgolion ar draws Sir y Fflint. Gwnaethpwyd sylwadau am y sefyllfa ddigynsail ond roedd rhai elfennau cadarnhaol i’w nodi, gan gynnwys Prydau Ysgol Am Ddim.
Ymatebodd Arweinydd y Cyngor i’r sylwadau a wnaed gan Aelodau mewn perthynas â’r angen i ysgolion gael eglurhad a sicrwydd ar eu cyllidebau cyn gynted â phosibl ac roedd yn cytuno â’r sylwadau. Roedd yn gobeithio y byddai’r setliad dros dro gan Lywodraeth Cymru ar 13 Rhagfyr yn darparu hyn.
Cynigiodd y Cynghorydd Carolyn Preece ddilyn yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Ryan McKeown
PENDERFYNWYD:
Casglu a rhannu’r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor â’r Cabinet cyn y cyfarfod ar 20 Rhagfyr 2022.