Mater - cyfarfodydd
MTFS & Budget Setting 2023-24 (Stage 2) (E&E OSC)
Cyfarfod: 13/12/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 39)
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Gosod Cyllideb 2023-24 (Cam 2)
Pwrpas: Bod y Pwyllgor yn adolygu a rhoi sylw ar bwysau cost a’r strategaeth gyffredinol ar gyfer y gyllideb, a chynghori ar unrhyw feysydd o effeithlonrwydd cost yr hoffent edrych arnynt ymhellach.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (39/2)
- Gweddarllediad ar gyfer Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Gosod Cyllideb 2023-24 (Cam 2)
Cofnodion:
Cynigiwyd symud i 2il Ran y cyfarfod gan y Cynghorydd Mike Peers ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Ian Hodge.
Darparwyd cyflwyniad ar y cyd gan Brif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi), a Phrif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) a oedd yn trafod y meysydd canlynol:
- pwrpas a chefndir
- atgoffa am sefyllfa Cyllideb y Cyngor
- pwysau costau Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi
- crynodeb o bwysau costau Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi
- toriadau i gyllideb Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi
- arbedion effeithlonrwydd Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi yn y gorffennol
- her cyllideb 2023/24 – ein dull o ymdrin â hi
- crynodeb – toriadau i gyllideb Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi
- pwysau costau Gwasanaethau Stryd a Chludiant
- crynodeb o bwysau costau Gwasanaethau Stryd a Chludiant
- toriadau i gyllideb Gwasanaethau Stryd a Chludiant
- arbedion effeithlonrwydd Gwasanaethau Stryd a Chludiant yn y gorffennol
- her cyllideb 2023/24 – ein dull o ymdrin â hi
- crynodeb – toriadau i gyllideb Gwasanaethau Stryd a Chludiant
- camau nesaf ar gyfer y broses o osod cyllideb 2023/24
- proses y gyllideb – Cam 2
- proses y gyllideb – Cam 3 (Terfynol)
Yn dilyn y cyflwyniad, ymatebodd y Swyddogion i gwestiynau gan yr Aelodau.
Cynigiodd y Cynghorydd Ian Hodge yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Dan Rose.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi pwysau costau portffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi;
(b) Nodi opsiynau portffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi i gwtogi cyllidebau;
(c) Nodi pwysau costau’r portffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant; a
(d) Nodi opsiynau’r portffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant i gwtogi cyllidebau.