Mater - cyfarfodydd

Capital Programme 2023/24 – 2025/26

Cyfarfod: 24/01/2023 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 68)

68 Rhaglen Gyfalaf 2023/24 – 2025/26 pdf icon PDF 356 KB

Cyflwyno Rhaglen Gyfalaf 2023/24 – 2025/26 i'w chymeradwyo

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr adroddiad a oedd yn cyflwyno Rhaglen Gyfalaf 2023/24 – 2025/26 i’w chymeradwyo.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol fod Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor wedi'i rhannu'n dair adran:

 

  • Statudol/Rheoleiddiol – dyraniadau i fodloni gwaith rheoleiddiol a statudol;
  • Asedau wedi’u Cadw – dyraniadau i ariannu gwaith isadeiledd angenrheidiol i sicrhau parhad gwasanaeth a busnes; a
  • Buddsoddi – dyraniadau i ariannu’r gwaith angenrheidiol i ail-lunio gwasanaethau i wneud arbedion effeithlonrwydd sydd wedi’u nodi mewn cynlluniau busnes portffolios a buddsoddi mewn gwasanaethau fel sydd wedi’u nodi yng Nghynllun y Cyngor.  

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol gyflwyniad a oedd yn trafod y prif bwyntiau canlynol:

 

  • strwythur - Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor
  • rhaglen gyfredol 2022/23 - 2024/25
  • cyllid a ragwelir 2023/24 - 2025/26
  • statudol/rheoleiddiol - dyraniadau arfaethedig
  • asedau wedi’u cadw - dyraniadau arfaethedig
  • Adran fuddsoddi - dyraniadau arfaethedig
  • crynodeb rhaglen wedi ei hariannu’n gyffredinol
  • cynlluniau sy’n cael eu hariannu’n benodol
  • crynodeb rhaglen gyfalaf
  • cynlluniau posib ar gyfer y dyfodol

 

Y Cynghorydd Richard Jones yn cynnig gohirio’r eitem.  Nododd ei resymau a dywedodd yn ei farn ef y byddai’n annoeth cytuno i Raglen Gyfalaf tan fod y Cyfrif Refeniw wedi’i gydbwyso. Eiliodd y Cynghorydd Bernie Attridge hyn.

 

Siaradodd y Cynghorydd Ian Roberts yn erbyn y cynnig i ohirio a gofynnodd am gyngor gan y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Weithredwr ynghylch y flaenoriaeth i ystyried y Rhaglen Gyfalaf yn y cyfarfod. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson welliant i’r cynnig a wnaeth y Cynghorydd Richard Jones.  Cynigiodd y dylid mabwysiadu argymhellion 1 i 4 yn yr adroddiad.

 

Cafwyd pleidlais ar gynnig y Cynghorydd Richard Jones i’r eitem gael ei gohirio tan gyfarfod y Cyngor Sir yn y dyfodol.  Roedd y cynnig yn aflwyddiannus yn dilyn pleidlais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts y dylid cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf yn unol â'r argymhellion yn yr adroddiad a siaradodd o blaid y Rhaglen Gyfalaf.  Eiliodd y Cynghorydd Christine Jones y cynnig.

 

Cododd y Cynghorydd Bernie Attridge gwestiynau ynghylch cyllid i fynd i’r afael â materion seiberddiogelwch, digartrefedd, a chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Theatr Clwyd. Ymatebodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i'r sylwadau a godwyd yn ymwneud â seiberddiogelwch.  Ymatebodd y Rheolwr Corfforaethol - Rhaglen Gyfalaf ac Asedau i'r cwestiynau a godwyd ynghylch sicrhau cyllid ar gyfer Theatr Clwyd a rhoddodd eglurhad pellach ar y Rhaglen Gyfalaf.  Rhoddodd y Prif Weithredwr eglurhad ynghylch cyllid grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer digartrefedd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at y Rhaglen Gyfalaf a gofynnodd gwestiynau am adleoli Darpariaeth o ran Gwasanaethau Dydd Tri-ffordd (tudalennau 29 a 30 yn yr adroddiad).  Cyfeiriodd at y safle 10 erw ar gyrion yr Wyddgrug y cafodd ei nodi’n lleoliad newydd posibl a gofynnodd a oedd y safle’n berchen i’r Cyngor neu a oedd wedi’i brynu.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers hefyd at y wybodaeth bod Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn cyrraedd diwedd ei hyfywedd economaidd (tudalen 43, paragraff 1.54) a dywedodd bod rhai ysgolion yn Sir y Fflint yn h?n ac y dylen nhw gael eu hadolygu a’u hystyried yn y Rhaglen  ...  view the full Cofnodion text for item 68