Mater - cyfarfodydd
Capital Programme 2023/24 – 2025/26
Cyfarfod: 24/01/2023 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 68)
68 Rhaglen Gyfalaf 2023/24 – 2025/26 PDF 356 KB
Cyflwyno Rhaglen Gyfalaf 2023/24 – 2025/26 i'w chymeradwyo
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr adroddiad a oedd yn cyflwyno Rhaglen Gyfalaf 2023/24 – 2025/26 i’w chymeradwyo.
Dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol fod Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor wedi'i rhannu'n dair adran:
- Statudol/Rheoleiddiol – dyraniadau i fodloni gwaith rheoleiddiol a statudol;
- Asedau wedi’u Cadw – dyraniadau i ariannu gwaith isadeiledd angenrheidiol i sicrhau parhad gwasanaeth a busnes; a
- Buddsoddi – dyraniadau i ariannu’r gwaith angenrheidiol i ail-lunio gwasanaethau i wneud arbedion effeithlonrwydd sydd wedi’u nodi mewn cynlluniau busnes portffolios a buddsoddi mewn gwasanaethau fel sydd wedi’u nodi yng Nghynllun y Cyngor.
Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol gyflwyniad a oedd yn trafod y prif bwyntiau canlynol:
- strwythur - Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor
- rhaglen gyfredol 2022/23 - 2024/25
- cyllid a ragwelir 2023/24 - 2025/26
- statudol/rheoleiddiol - dyraniadau arfaethedig
- asedau wedi’u cadw - dyraniadau arfaethedig
- Adran fuddsoddi - dyraniadau arfaethedig
- crynodeb rhaglen wedi ei hariannu’n gyffredinol
- cynlluniau sy’n cael eu hariannu’n benodol
- crynodeb rhaglen gyfalaf
- cynlluniau posib ar gyfer y dyfodol
Y Cynghorydd Richard Jones yn cynnig gohirio’r eitem. Nododd ei resymau a dywedodd yn ei farn ef y byddai’n annoeth cytuno i Raglen Gyfalaf tan fod y Cyfrif Refeniw wedi’i gydbwyso. Eiliodd y Cynghorydd Bernie Attridge hyn.
Siaradodd y Cynghorydd Ian Roberts yn erbyn y cynnig i ohirio a gofynnodd am gyngor gan y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Weithredwr ynghylch y flaenoriaeth i ystyried y Rhaglen Gyfalaf yn y cyfarfod.
Cynigiodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson welliant i’r cynnig a wnaeth y Cynghorydd Richard Jones. Cynigiodd y dylid mabwysiadu argymhellion 1 i 4 yn yr adroddiad.
Cafwyd pleidlais ar gynnig y Cynghorydd Richard Jones i’r eitem gael ei gohirio tan gyfarfod y Cyngor Sir yn y dyfodol. Roedd y cynnig yn aflwyddiannus yn dilyn pleidlais.
Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts y dylid cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf yn unol â'r argymhellion yn yr adroddiad a siaradodd o blaid y Rhaglen Gyfalaf. Eiliodd y Cynghorydd Christine Jones y cynnig.
Cododd y Cynghorydd Bernie Attridge gwestiynau ynghylch cyllid i fynd i’r afael â materion seiberddiogelwch, digartrefedd, a chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Theatr Clwyd. Ymatebodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i'r sylwadau a godwyd yn ymwneud â seiberddiogelwch. Ymatebodd y Rheolwr Corfforaethol - Rhaglen Gyfalaf ac Asedau i'r cwestiynau a godwyd ynghylch sicrhau cyllid ar gyfer Theatr Clwyd a rhoddodd eglurhad pellach ar y Rhaglen Gyfalaf. Rhoddodd y Prif Weithredwr eglurhad ynghylch cyllid grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer digartrefedd.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at y Rhaglen Gyfalaf a gofynnodd gwestiynau am adleoli Darpariaeth o ran Gwasanaethau Dydd Tri-ffordd (tudalennau 29 a 30 yn yr adroddiad). Cyfeiriodd at y safle 10 erw ar gyrion yr Wyddgrug y cafodd ei nodi’n lleoliad newydd posibl a gofynnodd a oedd y safle’n berchen i’r Cyngor neu a oedd wedi’i brynu. Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers hefyd at y wybodaeth bod Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn cyrraedd diwedd ei hyfywedd economaidd (tudalen 43, paragraff 1.54) a dywedodd bod rhai ysgolion yn Sir y Fflint yn h?n ac y dylen nhw gael eu hadolygu a’u hystyried yn y Rhaglen ... view the full Cofnodion text for item 68