Mater - cyfarfodydd
Capital Strategy including Prudential Indicators 2023/24 – 2025/26
Cyfarfod: 22/11/2022 - Cabinet (eitem 74)
74 Strategaeth Gyfalaf, yn cynnwys Dangosyddion Darbodus 2023/24 - 2025/26 PDF 285 KB
Pwrpas: Cyflwyno’r Strategaeth Gyfalaf 2023/24 – 2025/26 i’w hargymell i’r Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Capital Strategy including Prudential Indicators 2023/24 – 2025/26, eitem 74 PDF 530 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Strategaeth Gyfalaf, yn cynnwys Dangosyddion Darbodus 2023/24 - 2025/26
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar Strategaeth Gyfalaf y Cyngor a gofynnodd i’r Cabinet gymeradwyo ei argymell i’r Cyngor.
Mae’r adroddiad yn egluro nodau allweddol y strategaeth a chynnwys pob adran, a pham bod angen y strategaeth.
Yn unol â'r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Darbodus), roedd yn ofynnol i awdurdodau bennu ystod o Ddangosyddion Darbodus. Mae’r Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys manylion Dangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2023/24 – 2025/26.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf a’i hargymell i’r Cyngor; a
(b) Cymeradwyo ac argymell y canlynol i’r Cyngor:
· Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2023/24 – 2025/26 fel y manylir o fewn Tablau 1, a 4-8 y Strategaeth Gyfalaf; a
· Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i greu symudiadau rhwng y terfyniadau y cytunwyd arnynt ar wahân o fewn y terfyn a awdurdodwyd ar gyfer yr effaith allanol a’r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf).