Mater - cyfarfodydd
Financial Procedure Rules
Cyfarfod: 24/01/2023 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 73)
73 Rheolau Gweithdrefnau Ariannol PDF 96 KB
Cymeradwyo'r Rheolau Gweithdrefn Ariannol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Financial Procedure Rules, eitem 73 PDF 881 KB
- Enc. 2 for Financial Procedure Rules, eitem 73 PDF 102 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rheolau Gweithdrefnau Ariannol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad i roi’r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol wedi’u diweddaru i’r Cyngor Sir ar ôl adolygiad manwl. Dywedodd fod y Rheolau Gweithdrefnau Ariannol wedi’u cymeradwyo gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio mewn cyfarfod y cafodd ei gynnal ar 14 Tachwedd 2022 a gofynnwyd am eglurhad ynghylch rhai o’r newidiadau y cafodd eu gwneud. Roedd y pwyntiau a godwyd a'r ymatebion a gyflwynwyd wedi'u nodi yn yr adroddiad. Gwnaeth Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ystyried y Rheolau Gweithdrefnau Ariannol hefyd ar 12 Ionawr 2023 a gofynnwyd am ragor o eglurhad ynghylch rhai adrannau ond nid oedd angen unrhyw ddiwygiadau pellach. Roedd y Rhestr Termau a’r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol wedi’u diweddaru wedi’u hatodi i’r adroddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge yr argymhelliad yn yr adroddiad a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Rob Davies.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol wedi’u diweddaru.