Mater - cyfarfodydd
Stores Contract
Cyfarfod: 16/11/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 5)
Contract Storfeydd a Reolir
Pwrpas: Ystyried y Contract Storfeydd.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (5/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (5/3)
- Gweddarllediad ar gyfer Contract Storfeydd a Reolir
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Busnes y cynigion ar gyfer cyflenwi deunyddiau adeiladu a gwasanaethau cysylltiedig yn y dyfodol drwy reoli storfeydd drwy Fframwaith Deunyddiau Cymru Gyfan ADRA. Mae’r fframwaith yn cynnig cyfleoedd ledled Cymru i gydweithio ag awdurdodau a darparwyr tai eraill, a fyddai’n darparu arbedion posib’ ar ddeunyddiau trwy archebion mwy.
Byddai’r Cyngor yn parhau i fonitro perfformiad y contract drwy dderbyn dangosyddion perfformiad allweddol. Byddai hyn yn galluogi i unrhyw bryderon o ran perfformiad gael eu nodi’n gynnar ac mae’n cyflwyno cyfleoedd am fesurau gwelliant parhaus i gael eu datblygu.
Ymatebodd y Rheolwr Busnes i gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Bernie Attridge yngl?n â safleoedd eraill sydd ar gael a’r fantais i’r gymuned.
Cafodd yr argymhellion, fel y’i hamlinellwyd o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’u heilio gan y Cynghorydd Rob Davies.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi dyfarniad contract rheoli storfeydd, fel yr a amlinellwyd yn yr adroddiad, drwy Fframwaith Deunyddiau Cymru Gyfan ADRA; a
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi’r dyfarniad ar gyfer contract pedair blynedd gyda’r opsiwn o’i ymestyn am bedair blynedd arall yn amodol ar berfformiad.