Mater - cyfarfodydd
Financial Procedure Rules
Cyfarfod: 14/11/2022 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 38)
38 Rheolau Gweithdrefnau Ariannol PDF 92 KB
Darparu Rheolau Gweithdrefnau Ariannol wedi’u diweddaru i’r Pwyllgor i’w hargymell i’r Cyngor Sir.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Updated FPRs, eitem 38 PDF 322 KB
- Enc. 2 - FPRs showing tracked changes, eitem 38 PDF 682 KB
- Enc. 3 - Glossary, eitem 38 PDF 102 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rheolau Gweithdrefnau Ariannol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Reolau Gweithdrefnau Ariannol diwygiedig i’w hardystio a’u cyflwyno i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad i’w hargymell i’r Cyngor Sir. Rhoddodd drosolwg o'r ddau brif newid i symleiddio'r broses ar gyfer adennill gordaliadau cyflog ac i ddiwygio'r trothwyon ar gyfer cymeradwyo diddymu drwgddyledion, ynghyd â mân newidiadau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.
Gan ymateb i gwestiynau gan Allan Rainford, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol eglurhad ar newidiadau sy’n deillio o adolygiad 2019 a dywedodd y gall swyddogion ystyried lefelau trosglwyddiad ariannol cyllideb a osodwyd gan awdurdodau eraill er mwyn eu cymharu mewn adolygiadau yn y dyfodol. O ran diddymu drwgddyledion, rhoddodd sicrwydd bod proses drylwyr ar waith i'r tîm Refeniw adennill cymaint â phosibl o ddyledion.
O ran ymholiadau gan y Cynghorydd Glyn Banks, cytunodd y Rheolwr Cyllid Strategol i ddarparu eglurhad pellach ar y cyfeiriad i dderbyn ‘copi cywir’ o anfoneb ddilys gywir a gwirio nwyddau a gwasanaethau o dan ‘Rheolaethau Allweddol’.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Parch. Brian Harvey, eglurodd swyddogion y dull o godi ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau ar draws yr awdurdod trwy gysylltu â thimau rheoli portffolio, sesiynau hyfforddi a'u hatgyfnerthu trwy waith Archwilio Mewnol. Rhoddwyd sicrwydd hefyd ynghylch proses monitro ac uwchgyfeirio rheolaidd ar gyfer torri rheolau.
Yn dilyn cwestiwn gan y Cadeirydd, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol eglurhad ar gymalau contract gweithwyr a'r broses symlach i adennill gordaliadau cyflog.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Parchedig Brian Harvey ac Allan Rainford.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol wedi'u diweddaru a'u hargymell i'w cyflwyno i'r Cyngor ar 24 Ionawr 2023 i'w cymeradwyo yn dilyn ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad ar 12 Ionawr.