Mater - cyfarfodydd
Rapid Rehousing Transition Plan
Cyfarfod: 12/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 26)
26 Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym PDF 217 KB
Pwrpas: Darparu gwybodaeth am egwyddorion craidd Ailgartrefu Cyflym a’r broses o ddatblygu Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym Sir y Fflint, sy’n cefnogi uchelgais y Cyngor a Llywodraeth Cymru i ddod â digartrefedd i ben.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Rapid Rehousing, eitem 26 PDF 98 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal adroddiad yn rhoi diweddariad ar gynnydd gyda datblygu’r Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym. Nododd yr adroddiad fod blaenoriaethau lefel uchel wedi eu cynnwys o fewn y Cynllun Pontio, ac roedd cynllun gweithredu drafft y byddai angen i Gyngor Sir y Fflint a’i bartneriaid ei ddarparu i gyflawni trawsnewid mewn atal digartrefedd a gwasanaeth digartrefedd statudol, a dechrau pontio i Ailgartrefu Cyflym.
Dywedodd fod rhaglen TrACE yn cael ei datblygu o ran trawma ac anghenion cymhleth. Ychwanegodd hefyd fod cefnogi’r gweithlu trwy ddatblygiad a hyfforddiant er mwyn meithrin cadernid yn y gwasanaeth, er mwyn osgoi rhoi gormod o bwysau ar staff, a fyddai yn ei dro yn helpu i gynnal a chadw staff hefyd, yn rhan hanfodol o hyn.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth wrth y Pwyllgor eu bod yn ceisio sicrhau darpariaeth ar gyfer ail ganolbwynt digartrefedd ar gyfer gogledd a de Sir y Fflint, a soniodd am yr angen i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy. Rhoddodd sicrwydd i’r Pwyllgor fod ymrwymiad i barhau i helpu pobl i gynnal tenantiaethau.
Diolchodd yr Aelod Cabinet Tai ac Adfywio i’r Rheolwr Gwasanaeth am yr adroddiad manwl. Soniodd am astudiaeth achos lwyddiannus o ran Ailgartrefu Cyflym yr oedd wedi clywed amdani ar gyfer Perth & Kinross, a dywedodd y byddai’n hapus i rannu’r wybodaeth gyda’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod. Ychwanegodd y byddai’n hoffi gweld rhagor o straeon llwyddiant yn cael eu cyflwyno mewn cyfarfodydd yn y dyfodol ar y gwaith sy’n cael ei wneud gan y Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin mai’r her fwyaf oedd caffael mwy o stoc tai a gofynnodd beth ellid ei wneud i hwyluso mwy o asedau ar gyfer fflatiau dwy ac un ystafell wely. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth eu bod yn gweithio’n agos gydag asedau i archwilio rhagor o gyfleoedd o ran stoc.
Soniodd y Cynghorydd Glyn Banks am eiddo gwag a dywedodd ei fod yn teimlo bod angen rhoi ystyriaeth i hyn ym mhob cyfarfod, er bod y Pwyllgor wedi cytuno o’r blaen i gael adroddiad diweddaru am eiddo gwag ymhen chwe mis. Cefnogwyd ei sylwadau gan y Cynghorydd Kevin Rush. Dywedodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) fod y Pwyllgor wedi argymell adroddiad diweddaru ymhen chwe mis yn ei gyfarfod diwethaf, i ganiatáu i’r camau yn y cynllun gweithredu gael eu gweithredu. Yn y cyfamser, byddai’r Pwyllgor yn cael gwahoddiad i ymweliad safle, i gymryd rhan mewn eglurhad fesul cam o’r broses eiddo gwag o’i dechrau i’w diwedd.
Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai modd iddi fynychu cyfarfodydd y Gweithgor Eiddo Gwag, fel Cadeirydd y Pwyllgor, fel arsylwr. Eglurodd yr Aelod Cabinet Tai ac Adfywio y byddai’n rhan o’r Gweithgor Eiddo Gwag bellach a byddai’n croesawu presenoldeb Aelodau’r Pwyllgor pan fo hynny’n briodol.
Gofynnodd y Cadeirydd a fu unrhyw gynnydd wrth nodi lleoliadau addas newydd i’r canolbwynt Digartrefedd presennol. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod safle posibl wedi’i nodi yn ardal Glannau Dyfrdwy. Byddai angen cynnal astudiaeth ddichonoldeb a byddai ymgysylltu ag Aelodau lleol, cyn i adroddiad diweddaru gael ei gyflwyno ... view the full Cofnodion text for item 26