Mater - cyfarfodydd

Overview & Scrutiny Terms of Reference

Cyfarfod: 18/10/2022 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 47)

47 Cylch Gorchwyl Trosolwg a Chraffu pdf icon PDF 86 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo'r diwygiadau arfaethedig i'r Cylch Gorchwyl ar gyfer pob un o'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i gael cymeradwyaeth i’r newidiadau arfaethedig i Gylch Gorchwyl pob un o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.  Rhoddodd wybodaeth gefndir gan ddweud fod y newidiadau arfaethedig i’r cylchoedd gorchwyl i’w gweld yn Atodiad 2 i’r adroddiad.

 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod y cylchoedd gorchwyl newydd arfaethedig wedi’u hystyried gan bob un o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn eu cyfarfodydd ym mis Gorffennaf 2022, lle cyflwynwyd newidiadau penodol.  Mewn ymateb i gwestiynau yngl?n â materion oedd yn dod o fewn cylch gwaith un neu fwy o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai’r penderfyniad o ran pa Bwyllgor Trosolwg a Chraffu a fyddai’n ei ystyried yn cael ei ddatrys drwy’r Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, ond y byddai’n bosib’ i Aelodau’r ddau Bwyllgor fod yn rhan o ystyried yr adroddiad perthnasol.  Ar ôl ystyried yr adroddiad, cefnogodd pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r newidiadau arfaethedig i’w cylchoedd gorchwyl.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Rob Davies yr argymhelliad yn yr adroddiad a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Bernie Attridge. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at dudalen 123 yn yr adroddiad gan gynnig y dylid newid y cyfeiriad at Gronfa Bensiynau Clwyd, dan y pennawd Adnoddau Corfforaethol, i ddweud ‘fel cyflogwr/aelod o’r Gronfa Bensiynau’ er mwyn i rôl y Cyngor fod yn eglur.  Cytunodd y Cynghorwyr Rob Davies a Bernie Attridge ar y gwelliant i’r argymhelliad. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i Gylchoedd Gorchwyl pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu; a

 

(b)       Newid y cyfeiriad at Gronfa Bensiynau Clwyd, dan y pennawd Adnoddau Corfforaethol, i ddweud ‘fel cyflogwr/aelod o’r Gronfa Bensiynau’.