Mater - cyfarfodydd
Capital Programme Monitoring 2022/23 (Month 6)
Cyfarfod: 22/11/2022 - Cabinet (eitem 78)
78 Monitro Rhaglen Gyfalaf 2022/23 (Mis 6) PDF 289 KB
Pwrpas: Darparu gwybodaeth am Raglen Gyfalaf Mis 6 ar gyfer 2022/23.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Capital Programme Monitoring 2022/23 (Month 6), eitem 78 PDF 90 KB
- Enc. 2 for Capital Programme Monitoring 2022/23 (Month 6), eitem 78 PDF 81 KB
- Enc. 3 for Capital Programme Monitoring 2022/23 (Month 6), eitem 78 PDF 170 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Monitro Rhaglen Gyfalaf 2022/23 (Mis 6)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson adroddiad a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i Raglen Gyfalaf 2022/23, ers ei gosod ym mis Rhagfyr 2021 hyd at ddiwedd Mis 6 (Medi 2022), ynghyd â gwariant hyd yma a’r sefyllfa derfynol a ragwelir.
Bu gostyngiad net o £0.154 miliwn i’r Rhaglen Gyfalaf yn ystod y cyfnod, a oedd yn cynnwys:
· Cynnydd net o £1.639 miliwn yng nghyllideb y rhaglen (Tabl 2 – Cronfa’r Cyngor – £2.647 miliwn), Cyfrif Refeniw Tai (£4.286 miliwn);
· Swm i’w ddwyn ymlaen i 2023/24 wedi’i gymeradwyo ym Mis 4 (£1.543 miliwn – Cronfa’r Cyngor)
· Arbedion a nodwyd ym Mis 6 (£0.250 miliwn – Cronfa’r Cyngor)
Y gwariant gwirioneddol oedd £22.471 miliwn.
Ni dderbyniwyd unrhyw dderbyniadau cyfalaf yn ail chwarter 2022/23. Cyfanswm yr arbedion a nodwyd oedd £0.250 miliwn. Roedd hynny’n rhoi gwarged diwygiedig a ragwelir yn y Rhaglen Gyfalaf ym Mis 6 o £3.376 miliwn (o warged sefyllfa ariannu Mis 4 o £3.126 miliwn) ar gyfer Rhaglen Gyfalaf 2022/23 – 2024/25, cyn gwireddu derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu ffynonellau ariannu eraill.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r adroddiad;
(b) Cymeradwyo'r addasiadau dwyn ymlaen; a
(c) Chymeradwyo’r dyraniadau ychwanegol.