Mater - cyfarfodydd
Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Month 6)
Cyfarfod: 22/11/2022 - Cabinet (eitem 77)
77 Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 6) PDF 123 KB
Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2022/23 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 6 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Month 6), eitem 77 PDF 20 KB
- Enc. 2 for Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Month 6), eitem 77 PDF 241 KB
- Enc. 3 for Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Month 6), eitem 77 PDF 18 KB
- Enc. 4 for Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Month 6), eitem 77 PDF 414 KB
- Enc. 5 for Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Month 6), eitem 77 PDF 191 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 6)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa monitro cyllideb refeniw 2022/23 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.
Y sefyllfa a ragwelwyd ar gyfer diwedd y flwyddyn oedd:
Cronfa’r Cyngor
• Diffyg gweithredol o £0.033 miliwn (heb gynnwys effaith y dyraniadau cyflog y byddai angen eu talu o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid ffafriol o £0.647 miliwn, ers ffigwr y diffyg a adroddwyd ym Mis 5
• Rhagwelir y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid sydd ar gael ar 31 Mawrth 2023 yn£8.071 miliwn (cyn effaith y dyraniadau cyflog terfynol)
Y Cyfrif Refeniw Tai
• Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £3.324 miliwn yn uwch na’r gyllideb
• Rhagwelir y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2023 yn £3.150 miliwn
Bu i Gyllid caledi gan Lywodraeth Cymru helpu i sicrhau £16 miliwn o
gymorth ariannol uniongyrchol y flwyddyn flaenorol a byddai’r awdurdod yn parhau i hawlio taliadau ar gyfer taliadau Hunan Ynysu a thaliadau Tâl Salwch Statudol ychwanegol yn 2022/23, ynghyd â thaliadau uniongyrchol Prydau Ysgol am Ddim, o fewn eu cyfnodau cymwys.
Bu i’r Aelodau longyfarch y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’i dîm am yr holl waith a wnaed ar y gyllideb.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2022/23.