Mater - cyfarfodydd
Cynllun Rheoli Parc Gwepra a chodi tâl
Cyfarfod: 23/02/2023 - Cabinet (eitem 129)
129 Cynllun Rheoli Parc Gwepra a chodi tâl PDF 107 KB
Pwrpas: Cyflwyno a chytuno ar gynllun rheoli Parc Gwepra newydd, ac ystyried codi tâl am barcio ceir.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Wepre Park Management plan, eitem 129 PDF 18 MB
- Enc. 2 for Wepre Park Management plan, eitem 129 PDF 6 MB
- Enc. 3 for Wepre Park Management plan, eitem 129 PDF 327 KB
- Enc. 4 for Wepre Park Management plan, eitem 129 PDF 116 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cynllun Rheoli Parc Gwepra a chodi tâl
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad a dywedodd fod Parc Gwepra yn un o barciau gorau Sir y Fflint ac mai dyma un o’r parcdiroedd mwyaf hardd a diwylliannol gyfoethog yn y rhanbarth.
Roedd y parc yn bwysig i filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Roedd y Cynllun Rheoli yn nodi’r cyfeiriad strategol a chynllun gweithredu cysylltiedig dros y pum mlynedd nesaf.
Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi, a’i fod wedi cael ei gefnogi. Mae gwaith wedi digwydd gydag Aelodau lleol a Chyfeillion Parc Gwepra, roedd manylion y gwaith yma wedi’i gynnwys yn atodiad yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Y byddai’r cynllun rheoli 5 mlynedd newydd ar gyfer Parc Gwepra yn cael ei gymeradwyo.