Mater - cyfarfodydd
Biodiversity Duty Update
Cyfarfod: 22/11/2022 - Cabinet (eitem 82)
82 Adrodd Adran 6 Bioamrywiaeth PDF 110 KB
Pwrpas: Diweddaru aelodau am y gwaith i sicrhau Cynllun Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth Adran 6 Deddf yr Amgylchedd er mwyn adrodd ar y camau a gymerir i Lywodraeth Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Biodiversity Sect.6 Reporting, eitem 82 PDF 803 KB
- Enc. 2 for Biodiversity Sect.6 Reporting, eitem 82 PDF 3 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Adrodd Adran 6 Bioamrywiaeth
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad a oedd yn darparu manylion ynghylch sut mae’r Cyngor yn gwneud cynnydd o ran cyflawni ei ddyletswydd bioamrywiaeth o dan Adran 6, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Rhoddwyd eglurhad ar Gynllun Cyflawni Bioamrywiaeth Cyngor Sir y Fflint 2020-2023, ‘Cefnogi Natur yn Sir y Fflint’, a chafodd cynnydd y camau i gyflawni’r amcanion eu hadolygu, gan dynnu sylw at feysydd allweddol o waith bioamrywiaeth o fewn y Sir. Roedd yr adroddiad yn cynnwys yr adroddiad Adran 6 statudol a fyddai’n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2023 ar ddiwedd yr ail rownd adrodd 3 blynedd.
Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i gyfarfod diweddar Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi, a bod yr argymhellion wedi cael eu cefnogi. Cafodd rhai awgrymiadau cadarnhaol eu gwneud yn y cyfarfod hwnnw ynghylch sut caiff bioamrywiaeth ei fonitro o safbwynt cynllunio, a allai gael ei gynnwys yn adroddiad monitro’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Gwnaethpwyd cysylltiad rhwng y rhaglen newid hinsawdd a bioamrywiaeth, a byddai’r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn gofyn iddynt gynnwys bioamrywiaeth ar eu rhaglen gwaith i’r dyfodol.
PENDERFYNWYD:
Nodi cynnwys yr adroddiad a chadarnhau cefnogaeth i swyddogion gyda’u gwaith parhaus o ran gwella bioamrywiaeth.