Mater - cyfarfodydd
Theatr Clwyd Project - Update
Cyfarfod: 23/09/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 30)
Prosiect Theatr Clwyd - Diweddariad
Pwrpas: Bod y Pwyllgor yn cefnogi cyfran y Cyngor o’r cynnydd disgwyliedig mewn costau ar gyfer adnewyddiad cyfalaf y Theatr cyhyd â bod Llywodraeth Cymru hefyd yn cytuno i ysgwyddo ei chyfran o’r costau ychwanegol yn unol â’r cyfrannau y cytunwyd arnynt eisoes.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (30/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (30/3)
- Gweddarllediad ar gyfer Prosiect Theatr Clwyd - Diweddariad
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad yn ceisio cefnogaeth i’r Cyngor dalu eu rhan nhw o’r cynnydd a ragwelir yn y costau ar gyfer gwaith ailwampio cyfalaf Theatr Clwyd, cyn belled bod Llywodraeth Cymru (LlC) yn cytuno i dalu eu rhan nhw o’r costau ychwanegol yn unol â’r cyfrannau a gytunwyd yn flaenorol. Awgrymodd y dylai Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd, a oedd yn bresennol i ddarparu gwybodaeth ac ymateb i gwestiynau, aros yn y cyfarfod nes roedd y Pwyllgor yn dymuno cael trafodaeth gyfrinachol.
Darparodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Corfforaethol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) wybodaeth gefndirol am agweddau allweddol o’r adroddiad.
Gan gydnabod gwerth cefnogaeth y Cyngor ar gyfer Theatr Clwyd, darparodd y Cyfarwyddwr Gweithredol wybodaeth ar ffrydiau buddsoddi a sicrwydd ar y prosiect drwy adroddiad annibynnol.
Rhoddodd y Cynghorydd Ian Roberts wybod i Aelodau am fwriad y Cabinet i gymeradwyo’r £1.5 miliwn ychwanegol i barhau â’r prosiect. Fodd bynnag, pe bai LlC yn amharod neu’n methu â chynyddu eu cyfraniad mewn modd cymesur, nododd y Cynghorydd Roberts y byddai’r Cabinet yn cyfeirio’r mater at y Cyngor llawn er mwyn gwneud penderfyniad terfynol.
Mewn ymateb i’r cwestiynau manwl gan Aelodau, rhoddwyd esboniad am ystod o broblemau gan gynnwys elfennau ariannol a threfniadau contractio gyda’r prosiect.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad.