Mater - cyfarfodydd
Theatr Clwyd Project
Cyfarfod: 26/09/2022 - Cabinet (eitem 52)
52 Prosiect Theatr Clwyd - Diweddariad
Pwrpas: Bod y Cyngor yn cymeradwyo ei gyfran o’r cynnydd disgwyliedig mewn costau ar gyfer adnewyddiad cyfalaf y Theatr cyhyd â bod Llywodraeth Cymru hefyd yn cytuno i ysgwyddo ei chyfran o’r costau ychwanegol yn unol â’r cyfrannau y cytunwyd arnynt eisoes.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (52/2)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (52/3)
- Gweddarllediad ar gyfer Prosiect Theatr Clwyd - Diweddariad
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am brosiect Theatr Clwyd.
Rhoddodd ddatrysiad posibl i fwlch cyllido a thynnodd sylw at y peryglon o beidio â symud ymlaen â buddion economaidd buddsoddi ym mhrosiect y Theatr a phecyn budd cymunedol a chymdeithasol.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r £1.5 miliwn ychwanegol sydd ei angen i fwrw ymlaen â phrosiect Theatr Clwyd;
(b) Wrth wneud hynny, cymeradwyo ymrwymo i gontract ar gyfer y cam adeiladu, a bydd hyn yn amodol ar gael cadarnhad bod rhagor o gyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru; a
(c) Bod y Cabinet yn cyfeirio’r prosiect at y Cyngor Sir ar gyfer y penderfyniad terfynol os na fydd Llywodraeth Cymru yn gallu cynyddu ei chyfraniad yn gymesur neu os na fydd yn fodlon gwneud hynny yn unol â chostau cynyddol y prosiect.