Mater - cyfarfodydd

External Public Sector Internal Audit Standards Assessment 2022

Cyfarfod: 28/09/2022 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 29)

29 Asesiad Safonau Archwilio Mewnol Allanol y Sector Cyhoeddus 2022 pdf icon PDF 81 KB

Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am ganlyniadau'r asesiad allanol o gydymffurfiaeth â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (SAMSC).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg adroddiad ar ganlyniad yr asesiad allanol o gydymffurfiad â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS) a gynhaliwyd bob pum mlynedd. Canfu’r asesiad allanol, a gynhaliwyd fel adolygiad gan gymheiriaid, fod gwasanaeth Archwilio Mewnol y Cyngor yn cydymffurfio â’r Safonau ym mhob maes arwyddocaol a’i fod yn gweithredu’n annibynnol ac yn wrthrychol.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Glyn Banks longyfarch y Rheolwr a'i thîm am y canlyniad cadarnhaol.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst a’r Cynghorydd Ryan McKeown.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.