Mater - cyfarfodydd
Treasury Management Annual Report 2021/22
Cyfarfod: 18/10/2022 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 44)
44 Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2021/22 PDF 119 KB
Pwrpas: Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2021/22 drafft i'r Aelodau.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Treasury Management Annual Report 2021/22, eitem 44 PDF 169 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2021/22
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2021/22. Dywedodd, fel sy'n ofynnol dan Reolau Gweithdrefnau Ariannol y Cyngor, fod yr Adroddiad Blynyddol wedi’i adolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 27 Gorffennaf 2022 a'r Cabinet ar 26 Medi 2022. Nid oedd unrhyw faterion o bwys wedi’u codi. Soniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol am y prif bwyntiau fel y nodwyd yn 1.05–1.09 yn yr adroddiad eglurhaol.
Wrth gynnig yr argymhelliad yn yr adroddiad fe wnaeth y Cynghorydd Paul Johnson ddiolch i'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a'i dîm am eu gwaith ar gynhyrchu'r Adroddiad Blynyddol. Eiliodd y Cynghorydd Ted Palmer hyn.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2021/22.